Rhun ap Iorwerth yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyfyngu ar deithio nad yw’n hanfodol i fannau problemus Covid yn Lloegr

Wrth i’r gwaith o godi cyfyngiadau cloi gael ei oedi ledled Lloegr, a bod cyfyngiadau pellach wedi’u gosod ar ardal fawr o ogledd orllewin Lloegr, mae Plaid Cymru wedi galw ar Brif Weinidog Cymru i ddilyn arweiniad yr Alban a chyfyngu ar deithio nad yw’n hanfodol rhwng mannau problemus Covid Lloegr a Cymru.

Bydd cyfyngu ar yr holl deithio ond hanfodol rhwng Cymru ac ardaloedd dan glo Lloegr, gan gynnwys ardal Manceinion Fwyaf, yn dod ag eglurder i bawb, ac yn helpu i gynyddu diogelwch y cyhoedd.

Ychwanegodd Gweinidog Iechyd Cysgodol Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth AS,

“Mae goblygiadau uniongyrchol i ardaloedd fel Ynys Môn a gogledd Cymru o ganlyniad i’r cyfyngiadau cloi newydd sydd ar waith yng ngogledd Lloegr. Mae angen arweiniad a chyfathrebu clir arnom gan Lywodraeth Cymru ynghylch y newidiadau ymddygiad sydd eu hangen ar deithio, cymdeithasu y tu mewn, a masgiau er enghraifft.

“Rhaid i bobl feddwl yn ofalus iawn am ba mor angenrheidiol yw eu teithiau rhwng ein dau ranbarth ar hyn o bryd, er mwyn sicrhau bod pethau’n cael eu rheoli.”