Rhun ap Iorwerth yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymddiheuro dros helyntion TFW

Wrth i broblemau trafnidiaeth Cymru a’r Gororau barhau, mynegodd a Phlaid Cymru Rhun ap Iorwerth bryderon eto yn Siambr y Cynulliad ynglŷn â’r materion y mae teithwyr yn ei wynebu gan roi cyfle arall i Lywodraeth Cymru ymddiheuro am y problemau y mae teithwyr yn delio â nhw.

Mae’r gwasanaethau ar hyd a lled Cymru wedi cael ei oedi, ei disodli a’i gohirio yn ystod yr wythnosau diwethaf, gyda Thrafnidiaeth i Gymru ond newydd ddechrau gweithredu i ddarparu’r fasnachfraint.

Unwaith eto manteisiodd Mr ap Iorwerth, llefarydd cysgodol Plaid Cymru dros yr economi a chyllid, ar y cyfle i godi’r pryderon gyda Llywodraeth Cymru yn y Cynulliad heddiw gan roi pwysau ar yr Ysgrifennydd Cabinet i ymddiheuro am y trafferthion y mae teithwyr yn eu hwynebu.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth AC:

“Unwaith eto, rydym yn cael adroddiadau bob dydd am wasanaethau rheilffyrdd ledled y wlad yn cael eu canslo, eu gohirio neu eu disodli – nid yw’n dderbyniol ac rydym yn dal i aros am ymddiheuriad gan Lywodraeth Cymru.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi cwyno am yr hyn a labelwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet fel ‘cerbydau gydag amodau erchyll iddynt’ pan etifeddwyd y fasnachfraint gan y deilydd blaenorol, ond fel partner wrth ddarparu Gwasanaethau Rheilffyrdd Cymru o dan fasnachfraint Arriva mae’n ymddangos fod Llywodraeth Cymru bellach yn peidio â monitro cyflwr y rheilffyrdd.?

“Mae arnaf eisiau i reilffyrdd trafnidiaeth Cymru lwyddo, yr ydym i gyd am gael gwell gwasanaeth rheilffyrdd i’r wlad, ond nid yw’n ymddangos bod digon o fonitro na chraffu’n digwydd er mwyn sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn barod ar gyfer cymryd y fasnachfraint newydd , ac o’r herwydd, nid yw’r sefyllfa bresennol yn ddigon da.”