Rhun ap Iorwerth yn galw am Uwchgynhadledd Fawr i drafod heriau sy’n wynebu Economi Cymru

Ymhlith yr heriau sy’n wynebu pob rhan o Economi Cymru ar hyn o bryd – yn enwedig yr ansicrwydd sy’n ymwneud â Brexit – mae llefarydd Plaid Cymru dros yr Economi a Chyllid Rhun ap Iorwerth wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gychwyn trafodaeth ar yr heriau sy’n wynebu economi’r wlad er mwyn symud ymlaen.

Mae adroddiadau fod ffatri Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn mynd i dorri dros hanner y gweithlu, a fyddai’n gweld 1,000 o swyddi yn cael ei cholli wedi dod yn agos iawn i’r ansicrwydd ynghylch dyfodol datblygiad Wylfa Newydd ac ansicrwydd am ddyfodol Airbus ym Mrychdyn.

Mewn cwestiwn brys heddiw i Weinidog Llywodraeth Cymru, Ken Skates yn y Cynulliad Cenedlaethol, galwodd Mr ap Iorwerth ar y Gweinidog i gychwyn trafod yr heriau sy’n wynebu economi’r wlad.

Dywedodd Mr ap Iorwerth:

“Rydw i’n bryderus iawn ynghylch y cyhoeddiad am ddyfodol Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr, y gweithlu a hefyd ei effaith ar economi ehangach Cymru.

“Rwy’n awgrymu ei bod yn amser, gan ystyried difrifoldeb y sefyllfa yr ydym yn ei wynebu yn y ffatri Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr – ac mewn mannau eraill ar draws y wlad – I gynnal Uwchgynhadledd fawr i edrych ar rai o’r bygythiadau yr ydym yn eu hwynebu yn Economi Cymru.

“Rydyn ni’n wynebu heriau i’n heconomi ledled Cymru, gan gynnwys yr ansicrwydd dwfn yn ymwneud â Wylfa – sef mater y gobeithiaf ei godi gyda’r Gweinidog yn ddiweddarach yr wythnos hon – ond hefyd y bygythiadau yn y tymor hir efallai i Airbus ym Mrychdyn sy’n ddyledus i Brexit, yn ogystal â’r materion ehangach sy’n gysylltiedig â’n hymadawiad arfaethedig o’r Undeb Ewropeaidd.”