Rhun ap Iorwerth yn galw am ddadl ar ddyfodol deintyddiaeth y GIG yng Nghymru

Mae Aelod Cynulliad Plaid Cymru dros Ynys Môn Rhun ap Iorwerth wedi annog Llywodraeth Cymru i gynnal dadl ar ddyfodol deintyddiaeth yng Nghymru yn dilyn nifer o bryderon a godwyd gydag argaeledd triniaeth ar y GIG i gleifion ar yr Ynys.

Unwaith eto, mae’r cyhoeddiad diweddar bod practis deintyddol y GIG ym Mhorthaethwy wedi cau, ac yna cau cangen ym Mangor a oedd â nifer o gleifion o Ynys Môn, wedi tynnu sylw unwaith eto at y diffyg darpariaeth ddeintyddol yn yr ardal.

Mewn cwestiwn i Lywodraeth Cymru ddoe, dywedodd Mr ap Iorwerth:

“Mae angen trafod nifer o lefelau o’n gwasanaeth deintyddol, ac rwy’n meddwl y byddai dadl yn fodd i wyntyllu pryderon. Yn gyntaf oll, mae pryderon difrifol ynglŷn â chytundeb yr ??? — ? unedau gweithgarwch deintyddol ? — lle’r wyf wedi fy argyhoeddi bod yna anghymhelliad i ddeintyddion ymdrin â nifer o broblemau, gan gynnwys problemau a ddioddefir gan blant nad ydynt yn gallu cael mynediad at driniaeth.

“Yn ail, mae angen inni gael dadl ar y gofal ddeintyddol sydd ar gael gan y GIG. Cyhoeddodd deintyddfa yn fy etholaeth i, Bridge Street ym Mhorthaethwy, y bwriad yn ddiweddar i gau — y broblem oedd ei bod yn anodd cael gafael ar staff. Ysgrifennais at Betsi Cadwaladr i ofyn beth mae’r cleifion i fod i’w wneud rwan?

“Yr ymateb a gefais oedd, ‘ Dywedwch wrthynt am ffonio i chwilio am feddygfa ddeintyddol sy’n darparu gwasanaethau’r GIG. ‘ Gwn fod y cyfleoedd i bobl gael gafael ar wasanaethau’r GIG yn brin, ac ar restr ddiweddar, Caergybi yn fy etholaeth i oedd y lle yr oedd yn rhaid i bobl deithio bellaf i gael mynediad i wasanaethau deintyddol—59 milltir yno ac yn ôl i’r ddeintyddfa agosaf.

“Ac yn drydydd, methiant i recriwtio deintyddion newydd oedd y broblem o ran deintyddiaeth Bridge Street ym Mhorthaethwy. Yn union fel y llwyddasom gyda’n hymgyrch i ddarparu hyfforddiant meddygol ym Mangor, credaf y byddai’r ddadl hon hefyd yn fodd o drafod yr angen am hyfforddiant ddeintyddol hefyd, i gael ei datblygu ar gefn yr hyfforddiant meddygol sydd i fod i gychwyn yno yn fuan.”