Rhun ap Iorwerth yn galw ar Y Llywodraeth i warchod swyddi a gwasanaethau Maes Awyr Caerdydd ar ôl ergyd FlyBe

Mae Gweinidog yr Wrthblaid dros Economi a Chyllid Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth AC wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn dilyn cyhoeddiad diweddar gan y cwmni hedfan FlyBe y byddai’n cau ei ganolfan jet ym Maes Awyr Caerdydd ar ddiwedd tymor yr haf, gan roi nifer o swyddi a llwybrau hedfan mewn perygl.

Flybe yw’r cwmni hedfan unigol mwyaf sy’n gweithredu o Faes Awyr Caerdydd gyda sawl can mil o deithwyr y flwyddyn ar draws 15 o lwybrau. Bydd cau canolfan jet y maes awyr ym Maes Awyr Caerdydd yn rhoi hyd at 60 o swyddi uniongyrchol mewn perygl erbyn mis Hydref 2019 a gallai nifer o lwybrau hedfan fod o dan fygythiad, gan gynnwys llwybr Ynys Môn-Caerdydd.

Gan ysgrifennu at Ken Skates, y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth yng Nghymru, ynglŷn â’r mater, anogodd Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru i Lywodraeth Cymru wneud popeth o fewn ei gallu i ddiogelu swyddi a diogelu gwasanaethau hanfodol o’r maes awyr sy’n eiddo i Lywodraeth Cymru.

Dywedodd Mr ap Iorwerth:

“Rwyf wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru ar frys ynglŷn â chyhoeddiad Flybe eu bod yn bwriadu torri 50-60 o swyddi a rhoi terfyn ar hedfan awyrennau o Gaerdydd erbyn mis Hydref 2019, gan geisio sicrwydd ac eglurhad ar nifer o gwestiynau heb eu hateb.

“Rwy’n arbennig o bryderus am y staff hynny sy’n wynebu ansicrwydd aruthrol am eu bywoliaeth, yn ogystal â chanlyniadau torri’r teithiau hyn i’r economi leol a chenedlaethol, a statws Maes Awyr Caerdydd o gofio mai Flybe yw prif weithredwr y maes awyr.

“Mae Flybe wedi cadarnhau y byddant yn parhau i gynnig teithiau awyr eraill gan ddefnyddio awyrennau llai, ond ni chynigwyd unrhyw sicrwydd o ran cyrchfannau nac amlder, ac ni wnaed unrhyw eglurhad ynghylch dyfodol teithiau hedfan rhwng Caerdydd ac Ynys Môn – llwybr sy’n arbennig o bwysig i fy etholaeth i, ac un sydd wedi cynyddu mewn poblogrwydd dros y blynyddoedd diwethaf.

“Rhaid i Lywodraeth Cymru wneud popeth o fewn ei gallu i ddiogelu’r swyddi hyn sydd dan fygythiad ac i ddiogelu gwasanaethau hanfodol o Faes Awyr Caerdydd.”