“Mae’n rhaid cynllunio ymhellach ymlaen” meddai Rhun ap Iorwerth wrth Lywodraeth Cymru ar ôl cyhoeddi newidiadau i’r cyfnod clo yng Nghymru.

Yn ôl Rhun ap Iorwerth, mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru “gynllunio ymhellach ymlaen” ynghylch llacio cyfyngiadau.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fwy o newidiadau i bolisiau’r cyfnod clo yng Nghymru heddiw.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth AS, Gweinidog Cysgodol Iechyd Plaid Cymru, fod pobl a busnesau angen gweledigaeth hir dymor yn hytrach na chynllun “dwy i dair wythnos” gan awgrymu “cynllun graddol” fel y gwelir mewn gwledydd eraill, a rhybuddion y gall pethau newid.

Ailadroddodd Gweinidog Iechyd yr Wrthblaid ei alwad i Lywodraeth Cymru weithredu “cyn gynted â phosib”, ond gan hefyd “herio a phrofi ei thystiolaeth” yn y ffordd fwyaf diogel.

Pwysleisiodd Mr ap Iorwerth na ddylai’r newidiadau “gyfaddawdu’r perygl i’r iechyd”.

Cadarnhaodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, heddiw fod cynlluniau pwyllog er mwyn sicrhau fod teithiau i atyniadau twristiaeth yn gallu ailagor o’r 6ed o Orffennaf, ac ar gyfer archebu llety hunan-gynhaliol o’r 13eg o Orffennaf.

Cadarnhaodd hefyd fod cyfyngiad teithio Cymru yn gallu cael ei lacio o’r 6ed o Orffennaf er mwyn galluogi bobl i deithio “cyn belled ac y maent yn dymuno ac i bob bwrpas”.

Dywedodd Gweinidog Cysgodol Iechyd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth AS:

“Er ei bod yn galonogol ein bod ni ar y trywydd iawn wrth lacio cyfyngiadau yn sgîl hyder y Llywodraeth ei bod hi’n saff i wneud hynny, dwi dal yn awyddus i’r Llywodraeth gynllunio ymhellach ymlaen. Mae pob newid yn cael ei wneud o fewn bloc dwy i dair wythnos. Ond mae’n rhaid i bobl a busnesau gael gweledigaeth hir dymor, a rhyw fath o gynllun graddol fel y gwelir mewn gwledydd eraill sy’n caniatáu dyddiadau tebygol ar gyfer newidiadau, ond sydd hefyd yn cynnwys rhybuddion y gall pethau newid yn dibynnu ar achosion a’r gyfradd R.

“Dwi’n ailadrodd fy ngalw i’r Llywodraeth weithredu mor gyflym â phosib, gan herio a phrofi ei thystiolaeth yn drylwyr, ond yn y ffordd fwyaf ddiogel bosib hefyd. Ni allwn gyfaddawdu ein iechyd, ac mae’r achosion yn fy etholaeth yn ein hatgoffa o hynny.”