Plaid Cymru yn galw am sefydlu corff ynni newydd ar Ynys Môn

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru angen gweithredu ar frys i ddatblygu dewisiadau amgen i Wylfa Newydd ar Ynys Môn, yn ôl AC Gogledd Cymru Plaid Cymru.

Mae Llyr Gruffydd AC wedi galw ar y Prif Weinidog newydd i wireddu ei addewidion etholiadol trwy sefydlu cwmni ynni di-elw i Gymru ar Ynys Môn.

Dywedodd: “Mae Plaid Cymru wedi argymell sefydlu cwmni ynni ar y cyd o’r enw Ynni Cymru, yn seiliedig ar fodel Dŵr Cymru, a fyddai’n cydlynu a datblygu cynhyrchu ynni yng Nghymru er budd pobl Cymru. Mae’r newyddion diweddar fod Wylfa Newydd wedi’i ohirio ynghyd â’r newyddion am golli swyddi yn Rehau Amlwch yn golygu bod angen y math hwn o feddwl arloesol yn fwy nag erioed. Mae hynny’n arbennig o wir am Ynys Môn, sydd wedi cael cyfres o ergydion economaidd ac mae angen cymorth ymarferol ar frys. Fel gweinidog ynni cysgodol Plaid Cymru, rwy’n cynnig bod Llywodraeth Cymru yn datblygu model Ynni Cymru ar unwaith a’i leoli ar Ynys Môn.

“Roedd addewidion etholiad y Prif Weinidog yn cynnwys sôn am hyn ac, er ei fod yn ddwyn yn syth o bolisi Plaid Cymru, mae gennyf fwy o ddiddordeb mewn sut y gallwn greu swyddi ac arloesi yn y sector ynni yng Nghymru na sgorio pwyntiau gwleidyddol.

“Dyna pam y codais y mater yn y Senedd yn ystod cwestiynau i’r gweinidog ynni a pham y byddaf i ac Ynys Môn AC Rhun ap Iorwerth yn parhau i bwyso i weld Ynys Môn yn datblygu’n ynys ynni mewn mwy nag enw yn unig. Nid yw pobl yr ynys yn haeddu dim llai. ”

Meddai AC Môn, Rhun ap Iorwerth: “Mae Plaid Cymru wedi dadlau ers tro fod angen cwmni ynni arnom i Gymru. Mae’n dda gweld bod y Prif Weinidog wedi dechrau derbyn ein syniadau. O ystyried yr heriau economaidd yr ydym yn eu hwynebu ar Ynys Môn – a’r ffaith bod gennym hanes o ymchwil a chynhyrchu ynni – mae’n eithaf syml, dylai’r cwmni ynni hwn cael ei seilio ar Ynys Môn. “