Rhun ap Iorwerth yn galw am Gronfa Ymchwil a Datblygu yn benodol ar gyfer Prifysgolion Cymru

Mae Gweinidog Cysgodol Plaid Cymru dros yr Economi a Chyllid Rhun ap Iorwerth wedi galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu cronfa Gyllid Ymchwil a Datblygu i Gymru, er mwyn gwarchod ein Prifysgolion ar ôl i ffigyrau diweddar ddangos fod 60% o gyfanswm gwariant Cronfa bresennol y DU yn cael ei fuddsoddi mewn Addysg Uwch yn ne-ddwyrain Lloegr.

Dengys y ffigurau a gyhoeddwyd yn ddiweddar sut y mae Llundain a siroedd cartref Lloegr yn derbyn mwy na theirgwaith gymaint o wariant Cyllid Ymchwil a Datblygu y pen na’r hyn a gaiff pobl yng Nghymru, a dadleuodd AC Plaid Cymru dros Ynys Môn fod yn rhaid i Lywodraeth Cymru wneud mwy i sicrhau cyllid pellach ar gyfer Prifysgolion Cymru.

Dywedodd Mr ap Iorwerth:
“Mae ffigurau diweddar yn dangos mai tua £6.5bn yw cyfanswm gwariant Cyllid Ymchwil a Datblygu addysg uwch yn y DU. Torrwch hynny i lawr a gwelwn wariant fesul person yng Nghymru yn £86 o’i gymharu â £275 yn Llundain a siroedd cartref Lloegr – Mae bron i 60% o gyfanswm gwariant Cyllid Ymchwil a Datblygu addysg uwch yn cael ei wario yn ne-ddwyrain Lloegr.

“Mae’r Prifysgolion eu hunain yn defnyddio Cyllid Ymchwil a Datblygu, ond byddai’n anghywir awgrymu na allai Llywodraeth Cymru fod yn ddylanwadol wrth weld faint yn rhagor o arian y gallem ei ddefnyddio yng Nghymru.

“Nawr yw’r amser i Lywodraeth Cymru ddadlau’r achos dros greu cronfa o arian Cyllid Ymchwil a Datblygu yng Nghymru er mwyn cynyddu’r gwariant yn y sector hwn.”

Mewn ymateb, dywedodd Gweinidog Cyllid Llywodraeth Cymru Rebecca Evans, fod y cynnydd yng nghyllid Ymchwil a Datblygu yng Nghymru yn cyd-fynd â gweddill y DU, fodd bynnag dadleuodd Mr ap Iorwerth nad dyma’r pwynt a dywedodd fod Llywodraeth Cymru heb ddadlau’r achos dros gyfran Cymru o’r arian.

“Edmygaf agwedd gadarnhaol y Gweinidog wrth ddweud bod y cynnydd yng ngwariant Cyllid Ymchwil a Datblygu yng Nghymru yn cyfateb i’r cynnydd mewn rhannau eraill o’r DU, a’r gwir ydi mai wedi cynyddu 4.6% yma, ond roedden ni’n cychwyn o fan cymharol isel o gymharu â gweddill y DU , ac mae angen inni anelu at gydraddoldeb â rhannau eraill o’r DU.

“Yn 2016, o’r £ 2.2bn a wariwyd ar gyllid Ymchwil a Datblygu gan Lywodraeth y DU, gwariwyd £54 y person yn Llundain a’r siroedd cartref, o’i gymharu â dim ond £5 y pen yma yng Nghymru.

“Dyma enghraifft arall o Lywodraeth Geidwadol ar lefel y DU ddim yn buddsoddi yng Nghymru, ond hefyd Llywodraeth Cymru yn methu a chyflwyno’r achos dros gyfran Cymru o’r cyllid a hynny er anfantais i Gymru ac i Swyddi yng Nghymru.”