Mae Plaid Cymru yn galw am gynllun mesuriadau cloi lleol

Dylai Llywodraeth Cymru ddarparu strategaeth glir ar gloeon lleol fel bod y cyhoedd yn deall yr arwyddion rhybuddio cynnar, meddai Plaid Cymru.

Mae Rhun ap Iorwerth MS, Gweinidog Iechyd Cysgodol Plaid Cymru wedi dweud y dylai pobl allu bod yn hyderus bod ymatebion brys yn digwydd cyn gynted â phosib. Dywedodd Mr ap Iorwerth “rydym i gyd eisiau osgoi cloeon newydd os yn bosibl” ond bod angen glasbrint clir gan Lywodraeth Cymru ar gloeon lleol lle bernir eu bod yn angenrheidiol, fel bod y cyhoedd yn gwbl ymwybodol cyn gosod cloeon pellach.

Gosodwyd cyfyngiadau cloi lleol ar Gyngor Bwrdeistref Sir Caerffili, ac mae’n cynnwys gofyniad i bawb dros 11 oed wisgo gorchudd wyneb mewn siopau.

Fe wnaeth Mr ap Iorwerth hefyd adnewyddu galwadau i wneud gwisgo gorchuddion wyneb yn orfodol mewn siopau, er mwyn helpu i atal cloi mewn ardaloedd eraill yng Nghymru.

Ar hyn o bryd nid yw gorchuddion wyneb yn orfodol mewn siopau mewn unrhyw ran arall o Gymru. Gyda chyfraddau heintiau yn cynyddu mewn bwrdeistrefi sirol eraill, dywed Mr ap Iorwerth ei fod yn “gwneud synnwyr gorfodi’r defnydd o orchuddion wyneb cyn y pigyn nesaf.”

Dywedodd AS Plaid Cymru dros Ynys Mon Rhun ap Iorwerth:

“Rydyn ni i gyd eisiau osgoi mesuriadau cloi newydd os yn bosibl, ond rhaid i Lywodraeth Cymru gyhoeddi eu strategaeth cloi lleol – beth yw eu system rhybuddio cynnar, pwy sy’n gwneud yr alwad a phwy sy’n gyfrifol am orfodi’r rheolau? Dylai hyn fod yn sensitif i wahaniaethau rhwng cymunedau mewn gwahanol rannau o Gymru.

“Wrth lacio cyfyngiadau, rhaid gorfodi’r pethau sylfaenol yn gliriach, gan gynnwys pellhau cymdeithasol, golchi dwylo ac – wrth gwrs, gwisgo masgiau wyneb.

“Dylai masgiau wyneb fod yn rhan o’n cadw ni’n ddiogel. Maen nhw’n fesur ataliol i gyfyngu ar drosglwyddo. A gyda chyfraddau heintiau cynyddol mewn siroedd eraill, dylid gwisgo gorchuddion wyneb bod yn orfodol ym mhob siop yng Nghymru ar unwaith. Nid yw’n gwneud unrhyw synnwyr ei wneud yn orfodol ar ôl i cynydd mewn achosion gael ei gadarnhau.”