AC Plaid Cymru yn lleisio bod agwedd Ysgrifennydd Gwladol Cymru at Gynulliad Cymru yn ‘warthus’.

Beirniadwyd agwedd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns AS, at Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Aelod Cynulliad Plaid Cymru dros Ynys Môn Rhun ap Iorwerth AC.

Mewn dadl ar ganfyddiadau adroddiad Pwyllgor Cyllid Cynulliad Cymru ar Weithredu Datganoli Cyllidol yng Nghymru yn y Cynulliad ddoe, beirniadodd Mr ap Iorwerth agwedd yr Ysgrifennydd Gwladol tuag at y Cynulliad Cenedlaethol.

Nodwyd yng nghasgliad cyntaf yr adroddiad fod y pwyllgor yn ‘siomedig iawn o ran diffyg ymgysylltiad yr Ysgrifennydd Gwladol ar y mater pwysig yn gyfansoddiadol’, ar ôl i’r Ysgrifennydd Gwladol, Alun Cairns AS, wrthod cais y Pwyllgor i fynychu sesiwn dystiolaeth ffurfiol.

Dywedodd Mr ap Iorwerth:

“Rwy’n tueddu i deimlo bod agwedd yr Ysgrifennydd Gwladol tuag atom fel sefydliad yn warthus. Mewn llythyr a anfonwyd gan Gadeirydd yr Ysgrifennydd Gwladol at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid mae’n sôn am fod yn atebol i’r Senedd yn San Steffan ac nid i’r Cynulliad Cenedlaethol.

“Wel, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gorff a etholir yn ddemocrataidd sy’n cynrychioli buddiannau pobl Cymru. Os yw’r Cynulliad hwn a’i bwyllgor o’r farn ei bod yn briodol dwyn unrhyw un i gyfrif, ein cyfrifoldeb ni yw gwneud hynny, ac nid mater i Alun Cairns nac i unrhyw Weinidog arall o’r wladwriaeth osod ei hun yn fwy atebol i bobl Cymru. Ni allaf wneud y pwynt yma’n gryfach.

“Mae’n gwbl hanfodol i ni ofyn cwestiynau i gynrychiolydd Cymru yn San Steffan a’i fod yn clywed yn uniongyrchol gennym ni, fel corff a etholwyd yn ddemocrataidd yma yng Nghymru, yn union beth yw ein pryderon a’r math o sicrwydd yr ydym yn ei geisio ar ystod o faterion.”