Mae Bar Byrgyr Pete yn perthyn ym Mhenrhos, meddai Rhun ap Iorwerth MS

Mae AS Plaid Cymru dros Ynys Môn yn galw eto ar Land & Lakes i ganiatáu i’r fan byrger boblogaidd ailddechrau masnachu ar safle hirsefydlog Penrhos.

Mae Aelod Seneddol Ynys Môn Rhun ap Iorwerth wedi gofyn i Land & Lakes edrych eto ar y penderfyniad i derfynu contract y busnes, a ddaeth yn siom enfawr i Blue Davies, perchennog y busnes sydd wedi bod yn gweithredu ar y safle am 10 mlynedd, ac i lawer yn y gymuned leol a oedd yn gwsmeriaid rheolaidd cyn-Covid. Mae 1,624 o bobl wedi llofnodi deiseb yn galw ar y cwmni i ailystyried y penderfyniad.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth MS:

“Rwy’n gwerthfawrogi bod yn rhaid rhoi’r gorau i fasnachu yn ystod y cyfnod cloi er budd diogelwch y cyhoedd, a chydymffurfio â rheoliadau, ond mae’r penderfyniad i derfynu cytundeb Pete’s Burger Bar yn barhaol wedi codi teimladau cryf yn y gymuned leol.

“Nawr bod cyfyngiadau wedi’u lleddfu’n lleol, rwy’n galw ar Land & Lakes i adfer y contract, yn enwedig o gofio bod y busnes wedi rhoi sicrwydd y gellir rhoi camau ar waith i sicrhau nad yw clystyrau o bobl yn ymgynnull mewn modd anniogel, ac y gellid lliniaru risgiau trwy arferion diogel Covid-19.

“Yr hyn sydd gennym yma yw busnes, a weithredir gan deulu ifanc, sy’n wynebu ansicrwydd ariannol ac sy’n awyddus i barhau i fasnachu ym Mhenrhos fel y maent wedi gwneud yn llwyddiannus ers blynyddoedd. Maent yn barod i weithio gyda Land & Lakes ac awdurdodau perthnasol i gytuno ar ffordd ddiogel o weithredu, a chredaf yn gryf y dylid rhoi cyfle iddynt wneud hynny.”

Dywedodd Blue Davies, sy’n rhedeg Pete’s Burger Bar:

“Roedd yn sioc bod ein contract gyda Land & Lakes wedi ei derfynu yn union wrth i’r mesuriadau gloi ddechrau lleddfu ac ail-agor y parc arfordirol. Maent yn dweud wrthyf fod y penderfyniad yn cael ei gadarnhau oherwydd pryderon ynghylch pellhau cymdeithasol yn y maes parcio. Rwyf wedi cynnig gweithio gyda Land & Lakes a’r awdurdod lleol i sicrhau fy mod yn gweithredu’r busnes yn ddiogel ac yn gwneud defnydd cywir o arwyddion a chonau ac ati, ond nid wyf yn cael y cyfle hwnnw.

“Rydw i wedi fy synnu gan y gefnogaeth rydw i wedi’i chael gan y gymuned ar yr adeg anodd hon i ni fel teulu ifanc, ac yn annog y cwmni i edrych eto ar y penderfyniad i ganiatáu imi ddal i fasnachu. Rwyf wedi holi gyda’r Cyngor Sir am fan arall ar draeth Newry gan fod gwir angen i mi fynd yn ôl allan i fasnachu cyn gynted â phosibl, ond yn ddelfrydol hoffwn fynd yn ôl i fyny ym Mhenrhos.”