Consensws gadarn o blaid defnyddio gorchudd wyneb, meddai Rhun ap Iorwerth.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth AS ei fod yn edrych ymlaen at ddatganiad Llywodraeth Cymru yr wythnos hon ar y dystiolaeth ddiweddaraf ynghylch gorchuddion wyneb, a goblygiadau hyn ar y cyhoedd.

Hyd yma, mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthod argymell defnyddio gorchuddion wyneb. Fodd bynnag, yn dilyn galw gan Mr ap Iorwerth yn y Senedd wythnos ddiwethaf i ailfeddwl y penderfyniad yma, ac i Weinidogion ddefnyddio’r dystiolaeth ryngwladol ysgubol yn cefnogi eu defnydd, mae Mr ap Iorwerth yn gobeithio am ddiweddariad cadarnhaol.

Mae tystiolaeth wyddonol gynyddol ynghylch effeithlonrwydd gorchuddion wyneb wrth geisio lleihau risg Coronafeirws wedi ysgogi Plaid Cymru i godi’r mater unwaith yn rhagor efo Llywodraeth Cymru. Yn y Senedd, defnyddiodd Mr ap Iorwerth dystiolaeth gan Brifysgol California San Diego, a Phrifysgol Cenedlaethol Sun Yat-Sen yn Nhaiwan i nodi bod y feirws yn parhau i fod yn heintus tu fewn am oriau, a bod rhaid cael ‘mesurau sydd wedi’u cynllunio i leihau trosglwyddiad aerosol, gan gynnwys masgio cyffredinol’. Dywedwyd wrth Mr ap Iorwerth fod y dystiolaeth ddiweddaraf yn mynd i gael ei chysidro gan Lywodraeth Cymru.

Yn ddiweddarach yn yr wythnos, apeliodd BMA Cymru am newid yn y polisi yma hefyd, gan ddweud bod “risg sylweddol o haint yn dal i fodoli, ac mae tystiolaeth ddiweddar yn dangos os ydi’r trwyn neu’r ceg wedi ei orchuddio pan nad oes modd cael pellhad cymdeithasol, gall hyn helpu i reoli lledaeniad Covid-19 sydd yn y pen draw yn achub bywydau.”

Fe wnaeth Sefydliad Iechyd y Byd hefyd ddiweddaru’r cyngor gan bwysleisio’r manteision o wisgo gorchudd wyneb.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Cysgodol, Rhun ap Iorwerth:

“Dwi’n edrych ymlaen at ddatganiad newydd gan Lywodraeth Cymru sy’n amlinellu’r cyngor diweddaraf mae nhw wedi ei dderbyn, a sut mae nhw am addasu ei polisi yn sgîl hyn. Mae angen arweiniad clir.

“Erbyn hyn, dwi’n credu fod y dystiolaeth yn unfrydol – er bod gwisgo gorchudd wyneb ddim yn ddigon ar ben ei hun, gall ei wisgo mewn rhai mannau cyhoeddus fod yn help mawr yn y frwydr yn erbyn Coronafeirws.

“Mae cyngor diweddaraf Sefydliad Iechyd y Byd yn atgyfnerthu’r dystiolaeth bresennol fod gorchuddion wyneb yn ychwanegiad effeithiol i’r strategaeth i leihau trosglwyddiad Coronafeirws.”