Mae amseroedd aros orthopedig yn annerbyniol, yn ôl Rhun ap Iorwerth

Mae aros am dros 100 wythnos am lawdriniaeth orthopedig gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn gwbl annerbyniol ac mae angen cymryd camau ar frys, yn ôl AC Plaid Cymru dros Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth.

Cododd yr Aelod Cynulliad y mater ynglŷn ag amseroedd aros Orthopedig mewn cwestiwn i’r Gweinidog Iechyd yr wythnos hon, a dywedodd ei bod yn bryd sylweddoli nad yw mesurau arbennig ynddynt eu hunain yn ddigon i Betsi Cadwaladr, a bod angen cymryd camau’n gyflym i wella’r Sefyllfa.

Dywedodd Mr ap Iorwerth:

“Mae’r Gweinidog Iechyd yn dweud ei fod yn siomedig bod pobl yn aros yn rhy hir. Mae’n werth cymryd munud yn unig i feddwl beth yn union yw ystyr ‘ rhy hir ‘ o ran amseroedd aros orthopedig.

“Ysgrifennais at Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr a derbyniais ymateb ar 8 Ebrill ar ran claf yn aros am ben-glin newydd. Dywedodd yr ymateb fod tua 2,200 o gleifion yn aros am driniaeth orthopedig a bod yr amseroedd aros ar gyfer llawdriniaeth ddewisol tua 100 wythnos. Bythefnos yn ddiweddarach, cefais ateb yn dweud bod amseroedd aros ar gyfer llawdriniaethau pen-glin neu lawdriniaethau clun yn fwy na 110 wythnos.

“Nid yw hyn ar unrhyw lefel yn agos at fod yn dderbyniol. Onid yw’n amser inni sylweddoli fod mesurau arbennig ynddynt eu hunain ddim yn ddigon, a bod angen symud at ryw fath o fesurau argyfwng i Betsi Cadwaladr, neu ystyried o ddifrif a yw model y Bwrdd Iechyd ar gyfer Gogledd Cymru yn addas o gwbl?”