Mae angen rhyddhau cynlluniau Addysg Nyrsio “ar frys”

Mae Gweinidog Iechyd Cysgodol Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth MS, wedi galw am ryddhau cynllun manwl ar leoedd addysg nyrsio yng Nghymru ar frys, ac i’r cynlluniau ddangos arwyddion clir bod gwersi wedi’u dysgu o brofiad COVID-19.

Dywed Mr ap Iorwerth “er gwaethaf addewidion” gan Lywodraeth Cymru Llafur am strategaeth gweithlu newydd, a sefydlu corff newydd i oruchwylio addysg y gweithlu, dywed nad oes “llawer o dystiolaeth bod problemau hanesyddol yn cael eu rhoi y tu ôl i ni.” Wedi’i sefydlu ym mis Hydref 2018, mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (HEIW) yn goruchwylio addysg y gweithlu gofal iechyd yng Nghymru.

Tra datblygwyd cynlluniau addysg nyrsio cyn y pandemig, mae Mr ap Iorwerth yn deall bod y rhain yn cael eu hailweithio, ond dywed “ofnir nes bydd y gwaith hwnnw wedi gorffen, y bydd penderfyniadau ar staffio ac addysg yn parhau i ddigwydd mewn modd ad-hoc heb unrhyw strategaeth go iawn.”

Yn benodol, mae pryderon ynghylch nyrsio ym meysydd plant, iechyd meddwl, anabledd dysgu a nyrsio ardal, sydd wedi gweld diffygion o’r blaen.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth MS, Gweinidog Iechyd Cysgodol Plaid Cymru:

“Mae cyhoeddi Ffigurau Comisiynu ar gyfer lleoliadau addysg nyrsio yn rhan bwysig o gylch cynllunio’r gweithlu. Mae angen i’r cynllun fod yn addas at y diben, mae angen iddo fod yn fanwl, ac mae angen ei gyflawni ar frys.

“Fodd bynnag, er gwaethaf addewidion o strategaeth gweithlu newydd Llywodraeth Cymru, a sefydlu corff newydd i oruchwylio materion y gweithlu ac addysg – Addysg a Gwella Iechyd Cymru – nid oes llawer o dystiolaeth bod problemau hanesyddol yn cael eu rhoi y tu ôl i ni.

“Yn benodol, mae angen i ni wybod bod meysydd sydd wedi dioddef o ddiffygion yn ystod y blynyddoedd diwethaf wedi’u targedu. Mae’r rhain yn cynnwys hyfforddi nyrsys plant, iechyd meddwl ac anabledd dysgu a hefyd mwy o nyrsys ardal.

“Nid yw ein gwasanaethau GIG a gofal cystal â’r staff sy’n gweithio ynddynt yn unig. Nawr yw’r amser ar gyfer strategaeth go iawn ar addysg nyrsys, sy’n cynnwys creu digon o leoedd hyfforddi mewn meysydd allweddol. Mae angen i’r byrddau iechyd hefyd roi’r amser i nyrsys barhau â’u haddysg, sydd yn ei dro yn eu helpu i ddatblygu eu gyrfaoedd a sicrhau bod yr holl arbenigeddau’n cael eu llenwi.

“Hyd nes y bydd y gwaith hwnnw wedi’i orffen, bydd penderfyniadau ar staffio ac addysg yn parhau i ddigwydd mewn modd ad-hoc heb unrhyw strategaeth go iawn, a bydd hynny er anfantais i nyrsys Cymru ac, yn y pen draw, i’w cleifion.”