“Gwneud gorchuddion yn orfodol mewn siopau” meddai Plaid wrth i fasgiau gael eu gwneud yn orfodol ar drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru

Rhaid i Lywodraeth Cymru roi’r gorau i “lusgo ar ôl” a dilyn tystiolaeth wyddonol gyfredol ar orchuddion wynebau meddai Rhun ap Iorwerth MS, Gweinidog Iechyd Cysgodol Plaid Cymru

Dylai Llywodraeth Cymru “gofleidio” tystiolaeth wyddonol a gwneud masgiau’n orfodol mewn siopau, meddai Gweinidog Iechyd Cysgodol Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth MS.

Er bod gorchuddion wyneb bellach yn orfodol ar drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru, nid oes unrhyw ofyniad o hyd i’w defnyddio mewn unrhyw fannau cyhoeddus eraill.

Yr wythnos diwethaf, ymunodd Lloegr â’r Alban i wneud gorchuddion wyneb yn orfodol mewn siopau.

Dywedodd Gweinidog Iechyd Cysgodol Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth AS, fod penderfyniadau Llywodraeth Cymru dros orchuddion wyneb yn “gwrth-ddweud y dull gofalus maen nhw wedi bod yn ei ddilyn tan nawr”.

Ychwanegodd Gweinidog Iechyd Cysgodol Plaid Cymru, gyda chyngor gan WHO, llywydd y Gymdeithas Frenhinol, a nifer o gyhoeddiadau gwyddonol gan gynnwys o Brifysgolion Rhydychen a Washington, wedi bod yn eglur ynghylch effeithiolrwydd gorchuddion wyneb wrth atal lledaenu covid-19.

Dywedodd Gweinidog Iechyd Cysgodol Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth AS:

“Mae gwir angen i Lywodraeth Cymru ddiweddaru ei pholisi ar orchuddion wyneb a chofleidio’r cyngor gwyddonol diweddaraf sy’n awgrymu y gall wneud gwahaniaeth gwirioneddol wrth leihau trosglwyddiad y firws. Yn lle hynny, maen nhw ar ei hôl hi.

“Mae eu hamharodrwydd i wneud hynny yn gwrth-ddweud y dull pwyllog y mae wedi bod yn ei ddilyn tan, ac yn blwmp ac yn blaen yn rhoi mwy o berygl i’w ddinasyddion.

“Rhaid i Lywodraeth Cymru ddilyn y cyngor ysgubol o ffynonellau ar frys gan gynnwys Sefydliad Iechyd y Byd, llywydd y Gymdeithas Frenhinol, amryw gyhoeddiadau gan gynnwys o Brifysgolion Rhydychen a Washington, a llawer, llawer mwy.”

“Dylid croesawu popeth sy’n helpu i frwydro yn erbyn y risgiau. Rydym yn gweld o gynnydd diweddar mewn achosion yn ardal Wrecsam, er enghraifft, bod y risgiau o drosglwyddo uwch yn dal i fod yn bresennol i raddau helaeth.”