Cyfnodau Cloi ac Unigrwydd: Mae angen strategaeth llesiant sydd yn cynnwys pawb yng Nghymru

Wrth ymateb i’r newyddion y gallai pobl sy’n byw ar ben eu hunain gwrdd â chartref arall fel cartref estynedig mewn ardaloedd sydd â chyfyngiadau ychwanegol, dywedodd Rhun ap Iorwerth AS, Gweinidog Iechyd Cysgodol Plaid Cymru:

“Mae gen i bryder cynyddol am les y rhai sy’n profi unigrwydd yn ystod cyfnod o gyfyngiadau uwch – cyfyngiadau sydd bellach yn effeithio ar gynifer o bobl yng Nghymru.

“Rwy’n falch bod lles pobl sy’n byw ar ben eu hunain yn cael sylw ond hoffwn weld strategaeth ehangach yn ystyried yr holl wybodaeth sydd gennym bellach ar effaith coronafirws a cyfnodau cloi ar lesiant ac iechyd meddwl.

“Mae hyn yn cynnwys, yr effaith ar ein plant ieuengaf – gan gynnwys effeithiau ar eu haddysg – hyd at yr effaith ar ein henoed a’r rhai mwyaf agored i niwed, rheiny sy’n fwy tebygol o ddioddef effeithiau unigrwydd ac arwahanrwydd, mae angen strategaeth arnom sy’n cwmpasu’r cyfan o boblogaeth Cymru ar yr adegau heriol yma.”