Mae Rhun ap Iorwerth yn cymryd rhan yn yr Ymgyrch LeadHerShip i annog merched ifanc i ystyried gyrfa mewn gwleidyddiaeth.

Mae rhaglen LeadHerShip Chwarae Teg yn gobeithio ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o arweinwyr y dyfodol.

Mae Rhun ap Iorwerth am annog merched ifanc Ynys Mōn i ystyried gyrfa mewn gwleidyddiaeth, a dysgu mwy am fywyd fel AC trwy raglen LeadHerShip Chwarae Teg.

Mae LeadHerShip yn rhoi cyfle i ferched ifanc rhwng 16 a 22 oed gysgodi Aelod Cynulliad am y diwrnod, a dysgu sut mae penderfyniadau allweddol yn cael eu gwneud yng Nghymru. Bydd hyn yn golygu cael mewnwelediad uniongyrchol o fywyd AC o ddydd i ddydd, gan ddysgu sut mae’r Cynulliad yn gweithio, cwestiwn ac achosion gyda merched sydd yn AC a dadl fer, lle bydd y cyfranogwyr yn trafod rôl merched yng Nghymru heddiw.

Mae merched yn nodedig mewn rolau sydd angen iddynt wneud penderfyniadau pwysig yma yng Nghymru; a tra bod y Cynulliad yn perfformio’n dda gyda 47% o AC yn ferched, mae’r nifer yn is o lawer ymhlith Cynghorwyr, ac Aelodau Seneddol sydd yn ferched, sydd yn ddim ond 28%.

Mae Chwarae Teg eisiau sicrhau bod lleisiau merched yn cael eu clywed ar bob lefel wrth wneud penderfyniadau, a bod merched ifanc yn cael eu hannog i siarad am y materion sy’n bwysig iddynt. Mae LeadHerShip yn gobeithio darparu llwyfan i’w safbwyntiau gael eu clywed, ac i annog mwy o ymgysylltiad â gwleidyddiaeth Cymru.

Meddai Rhun ap Iorwerth: “Ar ôl llwyddiant LeadHerShip y llynedd, rwy’n falch o fod yn cymryd rhan eto ac yn cynnig cyfle i ferched ifanc yn Ynys Mōn gael cipolwg ar wleidyddiaeth Cymru. Dyma gyfle gwych i ferched ifanc leisio eu barn, a dysgu sut mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac Aelodau’r Cynulliad yn gweithio drostynt.

“Rydyn ni wedi gwneud rhywfaint o gynnydd da yng Nghymru gyda chyflawni cydraddoldeb, ond mae mwy i’w wneud felly rwy’n gobeithio’n fawr y bydd merched lleol yn gwneud cais, a sylweddoli bod ganddynt y potensial i fod yn arweinydd yn y dyfodol.”

Meddai Natasha Davies, Arweinydd Polisi ac Ymchwil yn Chwarae Teg: “Fe wnaethom ni ddechrau #LeadHerShip y llynedd er mwyn rhoi blas go iawn i ferched ifanc am y cyfleoedd gwleidyddol sydd ar gael iddynt. Bu’n llwyddiannus iawn ymysg y merched a’r AC ifanc fel ei gilydd, felly rydyn ni’n gobeithio derbyn mwy o geisiadau eleni.

“Bydd yn cynnig yma yn gyfle unigryw i ferched ifanc Cymru gael profiad uniongyrchol o wleidydd, yn ogystal â dysgu mwy am waith mewnol y Senedd. Rydym am ddangos i ferched ifanc yng Nghymru y gallant leisio eu barn a chwarae rhan bwysig wrth lunio’r dyfodol. ”

Gall merched o Ynys Môn sy’n dymuno gwneud cais i gymryd rhan yn LeadHerShip wneud cais ar https://chwaraeteg.com/projects/leadhership19/ erbyn dydd Gwener 15 Chwefror.