Llythyr at Weinidog Iechyd Llywodraeth Cymru ynglŷn â chynlluniau Betsi Cadwaladr i ganoli gwasanaethau fasciwlar yng Nglan Clwyd.

Annwyl Vaughan Gething,

Ysgrifennwn atoch ar fyrder yn dilyn fy nghwestiwn i chi yn ystod y Cyfarfod Llawn Dydd Mercher 9fed Ionawr, ynglŷn â’r cyhoeddiad diweddar gan BIPBC o’u bwriad i israddio’r Gwasanaeth Fasgwlar yn Ysbyty Gwynedd. Gobeithiwn eich darbwyllo bod wir angen cynnal asesiad cynhwysfawr o’r effaith gaiff canoli gwasanaethau ar y cleifion hynny sydd yn byw yn ardaloedd mwyaf gwledig Ynys Môn a Gwynedd, ac yn wir, y gogledd yn gyffredinol.

Bu ymrwymiad y llynedd i warchod y gwasanaeth cleifion preswyl a’r ‘limb salvage’ yn Ysbyty Gwynedd – ac i warchod y capasiti i dderbyn cleifion brys – yn dilyn gwrthwynebiad sylweddol gan gleifion, staff ac aelodau etholedig i’r cynlluniau blaenorol i symud gwasanaethau i Ysbyty Glan Clwyd. Mae’r Bwrdd Iechyd bellach wedi mynd yn ôl ar eu gair.

Derbyniais lythyr gan Brif Weithredwr BIPBC wedi’i ddyddio 2il Ionawr (ac mae copi ohono ynghlwm er gwybodaeth i chi) yn egluro’u safbwynt. Mewn ymateb i’r llythyr hwnnw, hoffem dynnu’ch sylw at y pwyntiau canlynol (Nid yw hwn yn rhestr cynhwysfawr o’n pryderon):

1. Mae’r ymgynghoriad cyhoeddus y seiliwyd y penderfyniad hwn arno wedi dyddio bellach – sy’n codi cwestiynau difrifol, yn enwedig gan fod y gwasanaeth hefyd wedi newid ers yr ymgynghoriad hwnnw.

2. Mewn rhannau eraill o’r DU, mae canllawiau’r Gymdeithas Fasgwlar yn cael eu gweithredu mewn modd sy’n cymryd i ystyriaeth gwahanol anghenion ardaloedd gwledig a threfol – nid yw’r cynlluniau hyn yn rhoi ystyriaeth o’r fath.

3. Nid ydym o’r farn bod yr hyn a gynnigir yn mynd i godi safonau. Yn wir mae safonau yn uchel ar hyn o bryd. Mae Ysbyty Gwynedd a Wrecsam Maelor – a fyddai’n cael eu hisraddio – yn gweithredu i safonau clinigol uchel iawn, ac felly mae’n codi’r cwestiwn a fyddai safonau’n uwch ar safle lle nad oes unrhyw wasanaethau fasgwlar ar hyn o bryd, a hwnnw’n safle sydd wedi gweld problemau o fewn rhai gwasanaethau sy’n cael eu cynnig yno’n barod yn ddiweddar.

4. Tynnwn eich sylw at argymhellion y Bwrdd ym mis Mawrth 2018, ble nodwyd y dylai cleifion brys gael eu derbyn yn Ysbyty Gwynedd ac Ysbyty Glan Clwyd, gydag ymgynghorwyr ar y ddau safle, ac y buasai achosion brys yn cael eu cynnal ym Mangor ar argymhelliad clinigwyr a swyddogion gweithredol. Mae hyn yn groes i beth a nodir yn yr ymateb diweddaraf hwn. Gofynnwn beth sydd wedi newid ers Mawrth 2018, gan ddadlau bod adeiladu ar seiliau o ragoriaeth clinigol adnabyddus yn fwy synhwyrol na’r cynlluniau presennol, yn enwedig gan nad yw’r Gymdeithas Fasgiwlar na’r CBLl wedi argymell ‘canoli’r gwasanaeth yn YGC chwaith.

5. Deallwn fod nifer sylweddol o gleifion brys yn cael eu derbyn i YG a YWM yn wythnosol, a bod y nifer o drosglwyddiadau rhwng safleoedd yn isel gan fod y system o gael dau safle’n gweithio’n dda – ac yn darparu’r mynediad gorau i boblogaeth gyffredinol Gogledd Cymru. Buasai’r cynlluniau presennol hefyd yn effeithio ar deuluoedd cleifion.

6. Mae penderfyniadau i weld yn cael eu gwneud ar ormod o frys, ac mae newidiadau cyson i’r cynlluniau yn rhoi argraff o ansicrwydd, sy’n bryderus i gleifion a’r staff.

7. Deallwn y gallasai adran fasgiwlar YG barhau’n ddeniadol i ymgynghorwyr newydd oherwydd ei enw da ac rydym yn credu’n gryf y dylai’r Bwrdd Iechyd anelu am ragoriaeth o’r fath, yn enwedig mewn darpariaeth wledig gan fod problemau craidd gyda recriwtio. Mae’n gwneud synnwyr felly i adeiladu ar sylfaen sy’n bodoli’n barod yn y maes hwn o feddygaeth yng Ngogledd Cymru. Ymhellach, deallwn fod swyddi wedi eu hysbysebu deirgwaith sydd hefyd yn codi pryderon am safon yr apwyntiadau. Mae hyn yn bryderus ar y gorau, yn enwedig gan na wyddom beth fydd safon unrhyw ddarpariaeth yn YGC yn y dyfodol o gymharu â’r enw da presennol yn YG.

8. Rydym hefyd yn bryderus am effaith cyffredinol y newid hwn ar statws Ysbyty Gwynedd, yng nghyd-destun cyflwyno cwrs meddygol ym Mhrifysgol Bangor yn y dyfodol agos.

Credwn yn gryf na ddylid cyrraedd unrhyw benderfyniad nes bydd adolygiad tryloyw, brys wedi’i gynnal, a hwnnw’n rhoi ystyriaeth lawn i’r effaith o israddio’r gwasanaeth ar gleifion sy’n byw yn y mannau pellach o Ynys Môn a Gwynedd, a fyddai’n wynebu sialensiau ychwanegol wrth gael mynediad i ddarpariaeth gofal brys. Ymhellach, mae gennym bryderon sylweddol am yr agenda barhaus hon o symud gwasanaethau hanfodol i’r dwyrain, a bod hynny’n rhoi cleifion sy’n byw yn ein hetholaethau ni, ond drwy Ogledd Cymru gyfan, mewn risg pellach – yn enwedig wrth ddelio ag achosion brys.

Bydd y newid hwn i’r gwasanaeth yn cael effaith andwyol ar gleifion brys, ac fe edrychwn ymlaen at dderbyn eich ymateb buan gan obeithio y byddwch chithau’n derbyn bod rhaid edrych ar y penderfyniad hwn eto am y rhesymau a nodir uchod.

Yn gywir,

Rhun ap Iorwerth AC
Sian Gwenllian AC
Hywel Williams MP
Liz Saville Roberts MP