“Gadewch inni yng Nghymru benderfynu sut i redeg ein system gyfiawnder” meddai AC ac AS Plaid Cymru.

Mae dau o aelodau blaenllaw Plaid Cymru wedi labelu’r sefyllfa bresennol i fod yn annerbyniol. Mae Rhun ap Iorwerth AC a Liz Saville Roberts AS wedi galw am ddatganoli’r pwerau dros weinyddu’r system gyfiawnder i Gymru, gan ychwanegu fod y sustem bresennol yng Nghymru ddim yn gweithio.

Yn dilyn y cyhoeddiad diweddar am ffigurau Canolfannau Llywodraethu Cymru a ddangosodd fod gan Gymru’r gyfradd garcharu uchaf yng Ngorllewin Ewrop, cafodd Mr ap Iorwerth gyfarfod â chyfreithwyr oedd am dynnu ei sylw at y broblem yn Llys y Goron Caernarfon ddoe. Mater arall sy’n wynebu’r system gyfiawnder yng Nghymru – yw’r anhawster i bobl mewn ardaloedd gwledig i gyrraedd y llysoedd am ei bod nhw tu allan i’w cymunedau.

Yn 2016 cafodd pedwar o’r llysoedd ar draws Gogledd Cymru eu cau, oedd yn cynnwys Caergybi a Llangefni yma yn Ynys Môn, Dolgellau yng Ngwynedd a Chanolfan Tribiwnlys a Gwrandawiad Wrecsam.

Mae hyn yn golygu bod rhaid i etholwyr Mr ap Iorwerth ar Ynys Môn a Mrs Saville Roberts yn Nwyfor Meirionnydd deithio i Gaernarfon – gyda rhai ohonynt heb fynediad at gar, a rhaid iddynt felly ddibynnu ar gludiant cyhoeddus, sydd ddim bob amser yn ffordd ymarferol i gyrraedd llys erbyn 9am ar fore penodol – ac felly mae pobl dan anfantais o fewn y system gyfiawnder.

Yn dilyn ei gyfarfod yn Llys y Goron Caernarfon, dywedodd Mr ap Iorwerth:

“Rydyn ni’n gwybod bod yna broblemau gyda’r system gyfiawnder yng Nghymru – mae gennym ganran uwch o bobl yn cael eu hanfon i’r carchar yma yng Nghymru nag unrhyw le arall yn y DU, felly mae’n rhaid i rywbeth newid ac rwy’n siŵr bod y gyfundrefn bresennol sydd ddim yn cael ei weinyddu yn lleol ar hyn o bryd, yn cyfrannu’n fawr at y broblem.

“Mae pobl o dan anfantais o ran eu gallu i ofalu amdanyn nhw eu hunain o fewn y system gyfiawnder hefyd, gyda thoriadau i gymorth cyfreithiol, er enghraifft – mae rhwystredigaeth wedi ymosod ar y system gyfiawnder a rhywsut rhaid inni ddod o hyd i ateb i hyn.

“Byddai datganoli pwerau dros y system gyfiawnder i Gymru yn gam sylweddol i’r cyfeiriad cywir. Gadewch inni yng Nghymru benderfynu sut i redeg ein system gyfiawnder am fod y sefyllfa bresennol yn annerbyniol. Nid dyma’r math o system gyfiawnder sydd ei angen arnom yng Nghymru. ”

Dywedodd Mrs Liz Saville Roberts AS:

“Dydi cloi pobl mewn carchar ddim yn datrys y broblem. Mae arnom angen system garchar adferol gwirioneddol i dorri’r cylch aildroseddu dieflig y mae llawer o garcharorion yn darganfod ei hunain ynddo.”

“Dylai Cynulliad Cenedlaethol Cymru gymryd rheolaeth o’n system gyfiawnder fel y gallwn greu un addas i anghenion unigryw ein cenedl, a pheidio caniatáu i San Steffan osod ei bolisïau anaddas arnom yma yng Nghymru.”