Diffyg profion Covid-19 yng Nghymru yn “bryderus iawn”

Wrth ymateb i’r datganiad gan Iechyd Cyhoeddus Cymru mai dim ond 5,000 o brofion Covid-19 sydd wedi’u cynnal yng Nghymru, dywedodd Gweinidog Iechyd yr Wrthblaid, Rhun ap Iorwerth AC,

“Dywedwyd wrthym ar Fawrth 21 fod 800 o brofion y dydd yn cael eu gwneud a’n bod ni wedi taro 6,000 y dydd erbyn Ebrill 1af.

“Mae clywed nawr mai dim ond 5,000 o brofion sydd wedi’u cynnal YN CYFANSWM yn peri pryder mawr.

“Mae angen i ni glywed ar unwaith sut mae’r Llywodraeth yn bwriadu cynyddu profion yn sylweddol. Mae hwn bellach yn fater o frys eithafol.