Llafur a’r Torïaid yn pleidleisio’n erbyn cynnig Plaid Cymru i amddiffyn ein NHS rhag cael ei breifateiddio

Mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi pleidleisio yn erbyn rhoi feto i’r Senedd dros fargeinion masnach ryngwladol a allai agor y GIG i wynebu cael ei breifateiddio.

Cyflwynodd Plaid Cymru gynnig yn galw am feto i Gymru ac i Ddeddf Cymru gael ei haddasu a fyddai yn cael gwared ar bŵer Llywodraeth y DU i orfodi trwy newidiadau mewn meysydd datganoledig yn erbyn ewyllys y Senedd.

Wrth ymateb i’r bleidlais, dywedodd Aelod Cynulliad Plaid Cymru dros Ynys Môn Rhun ap Iorwerth:

“Mae’n siomedig iawn bod Llafur heddiw wedi pleidleisio yn erbyn cynnig Plaid Cymru i amddiffyn GIG Cymru yn wyneb preifateiddio posib mewn Cytundeb Fasnach rhwng y DU a’r UD.

“O dan y Torïaid yn San Steffan a Llafur yng Nghymru rydym wedi gweld ein GIG yng Nghymru yn wynebu toriadau a chamreoli dro ar ôl tro. Heddiw pleidleisiodd Llafur a Torïaid yn erbyn yr egwyddor o’i amddiffyn rhag preifateiddio mewn cytundebau masnach posib.

“Plaid Cymru yw’r unig blaid ellir ymddiried ynddi i warchod ein gwasanaeth iechyd yng Nghymru. Byddwn yn recriwtio 1,000 o feddygon newydd, 5,000 o nyrsys newydd a 100 o ddeintyddion, a byddwn yn amddiffyn ein gwasanaethau iechyd hanfodol a’i staff rhag preifateiddio di-hid.”