Aelod Cynulliad Llafur yn cael i gyhuddo o dorri rheolau ynglyn a gwasanaethau bysiau.

Mae’r Gweinidog Trafnidiaeth wedi’i gyhuddo o dorri Cod y Gweinidog am iddo sianelu arian prin i’w etholaeth ei hun.

Mae Aelod Cynulliad Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth wedi cyhuddo Llafur o blygu rheolau’r Llywodraeth, ar ôl i’r Prif Weinidog gadarnhau bod Gweinidog Trafnidiaeth Llafur yn cael ei ymchwilio oherwydd honiadau ei fod wedi torri’r Cod Gweinidogol.

Datgelwyd bod y Gweinidog Trafnidiaeth, Ken Skates, wedi cyfeirio ei hun at y Prif Weinidog, yn dilyn honiadau iddo ymyrryd yn bersonol er mwyn sicrhau arian gan ei adran lywodraethol ei hun ar gyfer gwasanaethau bysiau yn ei etholaeth ei hun yn Ne Clwyd.

Dywedodd Mr ap Iorwerth, sy’n siarad dros Plaid Cymru ar Drafnidiaeth, fod y Llywodraeth Lafur ym Mae Caerdydd yn “mynd â Gogledd ‘Orllewin Cymru am reid”.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth, AC Plaid Cymru Ynys Ynys Môn a Gweinidog Cysgodol yr Economi a Chyllid:

“Mae ardaloedd fel Gwynedd ac Ynys Môn yn ysu am wasanaethau bws effeithiol. Er bod pawb angen buddsoddiad, cyhuddir y Llywodraeth Lafur hon o chwarae gyda’r rheolau er mwyn dargyfeirio arian i ardal sydd yn ffafriol i’r Gweinidog Trafnidiaeth.

“Gofynnais i’r Prif Weinidog heddiw a yw wedi gorffen ei ymchwiliad i weithredoedd Mr Skates, ond gwrthododd fy nghwestiwn fel petawn i yn anghywir. Mae hyn yn symbolaidd o weinyddiaeth hunanfodlon sydd wedi rhedeg allan o stêm yn llwyr, a sy’n cymryd ein cymunedau yn ganiataol.

“Mae gan bobl yr hawl i ddisgwyl tryloywder llawn o ran sut mae arian cyhoeddus yn cael ei wario, a disgwyl bod arian cyhoeddus yn cael ei wario’n deg ac yn gyfartal ym mhob rhan o Gymru.”