‘Mae hi’n amser i ail-adeiladu fel cenedl annibynnol’ – Rhun ap Iorwerth

Gweinidog Economi Cysgodol Plaid Cymru yn mynd i’r afael â ‘cham positif’ Annibyniaeth Cymru mewn dadl Brexit

Mae’r hyn sy’n digwydd yn San Steffan gyda Llywodraeth y DU yn benderfynol o bwyso i Brexit ddigwydd ar yr 31ain o Hydref yn ‘ddicter cyfansoddiadol’, yn ôl y cynnig a gyflwynwyd ar y cyd gan Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru i’w drafod yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru heddiw.

Dadleuodd Aelod Cynulliad Plaid Cymru dros Ynys Môn Rhun ap Iorwerth y pwynt yma, gan nodi bod gweithredoedd diweddar Llywodraeth y DU yn atgoffa rhywun o beryglon sylweddol Brexit heb Gytundeb, gan nodi tystiolaeth glir o’r ‘niwed penodol ac acíwt’ byddai gadael yr UE yn ei achosi.

Dywedodd Mr ap Iorwerth:

“Heddiw rydym yn falch o gyflwyno cynnig sy’n datgan gweithredoedd diweddar Llywodraeth Prydain yn warth cyfansoddiadol, ac sydd hefyd yn ein hatgoffa o beryglon difrifol gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb.

“Mae yna rybuddion am y bygythiad i swyddi. Rhybuddion am anhrefn gan Ffederasiwn y Busnesau Bach. Rhybuddion gan gwmnïau recriwtio – bod Brexit eisoes yn achosi prinder gweithwyr mewn rhai sectorau, a llawer, llawer mwy o rybuddion tebyg.

“Er fy mod i bob amser wedi gwrthwynebu unrhyw Brexit, mae’r dystiolaeth yn glir ynglŷn â niwed penodol ac acíwt Brexit heb Cytundeb … a nid ni yn unig ni yn Plaid Cymru sy’n dweud hynny.”

Gwnaeth Gweinidog Cysgodol yr Economi a Chyllid Plaid Cymru sylw angerddol dros annibyniaeth i Gymru fel rhan o’i gyfraniad i’r ddadl, gan ychwanegu bod yn rhaid i’r mater fod ar yr agenda genedlaethol er mwyn cynnig cyfle a ffresni i’r wlad.

Gan ychwanegu ei gred ei bod yn bryd i Gymru ailadeiladu fel cenedl annibynnol, dywedodd Mr ap Iorwerth:

“Mae yna gam positif yn agored i ni fel cenedl fach – ac mae’n rhaid ei fod ar yr agenda. Mae wedi bod ar ein hagenda ers amser maith wrth gwrs, rwyf bob amser wedi cefnogi annibyniaeth fel modd i greu dyfodol newydd i osod cyfeiriad newydd i Gymru.

“Mae annibyniaeth yn air emosiynol. Gellir ei gamddefnyddio a’i dwistio, ond rydyn ni’n gwybod beth mae’n ei olygu i Gymru, ac i mi mae’n creu cyfle, ffresni. Her? Ie, ond gwir obaith hefyd.

“Unigedd yw Brexit. Genedigaeth gwladwriaeth Gymreig yw rhyngwladoliaeth a phartneriaeth – o fewn cyd-destun Prydeinig ac Ewropeaidd. Mae Brexit yn unig. Mae annibyniaeth Cymru yn gynhwysol. Fy mreuddwyd yw i Gymru adeiladu ei dyfodol fel un cyfartal ag eraill. Dim gwell. Dim ond cyfartal.

“Mae Brexit yn adeiladu waliau. Mae adeiladu Cymru newydd yn ymwneud ag adeiladu pontydd. Fe allwn i ddatblygu balchder gwirioneddol o fod yn Ynysoedd Prydain pe bai Cymru yn wlad annibynnol. Ein cymdogion yn yr ynysoedd hyn yw ein ffrindiau.

“Mae’r hyn rydyn ni wedi bod yn dyst iddo dros y blynyddoedd Brexit yma: y celwyddau, yr anoddefgarwch, a’r bennod gywilyddus ddiweddaraf hon o danseilio democratiaeth, yn peri i mi gywilyddio bod yn rhan o’r wladwriaeth Brydeinig hon. Mae’n bryd ailadeiladu.”