Angen Uwchgynhadledd Economaidd frys yn sgil colli swyddi Ford

Wrth ymateb i’r adroddiadau y bydd safle Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn cael gwared ar 400 o swyddi, meddai gweinidog cysgodol Plaid Cymru dros yr economi, Rhun ap Iorwerth AC,

“Mae colli 400 o swyddi ar safle Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn erchyll – nid yn unig i’r gweithwyr sy’n dioddef yr effaith uniongyrchol o’r penderfyniad ond ar gyfer economi ehangach Cymru hefyd. Mae hyn yn golygu bod y safle ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn colli rhan fwyaf o’i gweithlu. Rhaid i ni nawr gael addewid gan Ford a Llywodraeth Cymru bod y gweithwyr hyn yn cael eu cefnogi a bod eu hawliau wedi’u diogelu.

“Dylai Llywodraeth Cymru dan Lafur fod eisoes fod mewn cyswllt a Ford, gan roi pwysau arnynt parthed y penderfyniad hwn, a fydd yn debygol o arwain at ganlyniadau ofnadwy i filoedd o deuluoedd sy’n dibynnu ar Ford ar gyfer cyflogaeth. Dylid trefnu uwchgynhadledd economaidd frys, o’r math a sefydlwyd ar adeg yr argyfwng economaidd degawd yn ôl.

“Rwyf eisoes wedi bod mewn cysylltiad â rheolwyr Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr i ofyn am gyfarfod i drafod dyfodol y safle a pha gyfleoedd newydd y gellir eu dilyn yn y dyfodol.

Ychwanegodd AC Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru Bethan Sayed,

“Codwyd cwestiynau am y safle ers peth amser, ac rwyf wedi cyfarfod â chynrychiolwyr Undebau i drafod hyn ac o ran datblygu cynhyrchion newydd yno yn y dyfodol.

“Rhaid inni sicrhau bod gweithwyr y safle yn cael eu cefnogi, a bod eu hawliau wedi’u diogelu. Byddaf yn gwneud popeth allaf i gefnogi pobl sy’n gweithio yno, ac yr wyf yn annog pobl i gysylltu os ydyn nhw eisiau fy nghefnogaeth. ‘