Rhun ap Iorwerth yn datgan pryder bod 1700 o gleifion Iechyd Meddwl wedi eu hanfon adref er eu bod nhw dal angen cymorth.

Yn sgîl pandemig y Coronafeirws, daeth i’r amlwg bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi rhyddhau bron i 1,700 o gleifion iechyd meddwl o’i gwasanaethau. Gan amcan yn gyntaf ei bod hi wedi rhyddhau rhwng 200 i 300 o gleifion, fe wnaeth y Bwrdd Iechyd ymddiheuro am y camgymeriad.

Gan bod y nifer cywir bellach wedi ei ddatgelu, fe gwestiynodd yr Aelod Seneddol, Rhun ap Iorwerth, sut oedd modd i hyn ddigwydd, gan alw am ailadeiladu gwasanaethau iechyd meddwl ar unwaith.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn honni ei fod wedi camddehongli cyngor y Llywodraeth ar y mater, gan ddweud ei fod yn bwriadu cysylltu efo’r holl gleifion yn y dyddiau sy’n dod er mwyn eu haildderbyn.

Mae llefarydd Iechyd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth AS, yn gofyn am eglurhad ynghylch sut ddigwyddodd hyn yn y lle cyntaf, a bod angen “buddsoddiad brys ar gyfer ailadeiladau gwasanaethau iechyd meddwl.”

Dywedodd Rhun ap Iorwerth AS, Gweinidog Iechyd Cysgodol Plaid Cymru:

“Mae un claf sydd yn cael ei yrru adref cyn ei fod yn barod yn un claf yn ormod. Mae’r ffaith ein bod ni’n dysgu rwan bod 1,694 o gleifion wedi eu rhyddhau yn fuan er eu bod nhw dal angen cefnogaeth gan y gwasanaethau iechyd meddwl wir yn ofidus.

“Dwi’n croesawu’r addewid y cysylltir â phob un o’r 1,694 o gleifion yn y diwrnodau i ddilyn er mwyn sicrhau eu bod nhw’n cael eu haildderbyn i’r gwasanaeth hollbwysig yma. Ond, mae’n rhaid cwestiynu o hyd sut oedd modd i benderfyniad o’r fath ddigwydd ar draws y bwrdd iechyd yn sgîl eu camddehongliad. Mi ddylai hi wedi bod yn eithaf clir y byddai hyn yn annerbyniol.

“Dwi’n meddwl fod o’n eithaf amlwg fod angen buddsoddiad brys ar gyfer ailadeiladu gwasanaethau iechyd meddwl.”