Mae angen i Lywodraeth Prydain a Llywodraeth Cymru ymateb ar frys i gyhoeddiad gohirio Wylfa: Rhun ap Iorwerth AC

Rhaid i Lywodraeth Cymru a’r DU weithredu camau pendant i warchod economi Ynys Môn yn sgil penderfyniad i ohirio datblygiad Wylfa Newydd, yn ôl Aelod Cynulliad Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth.

Dywedodd Mr ap Iorwerth: “heddiw rydw i’n meddwl am y staff a’r prentisiaid sydd eisoes yn cael eu cyflogi gan brosiect Wylfa Newydd ar Ynys Môn. Mae’n gyfnod pryderus iawn iddyn nhw. Ond rwyf yn meddwl hefyd am y rheini sydd wedi selio’i gobeithion ar gael eu cyflogi yno yn y dyfodol.

“Rŵan mae’n rhaid i ni edrych ar ffyrdd o symud ymlaen. Mae angen i Lywodraeth Prydain ddangos os ydyn nhw o ddifri am gefnogi Wylfa. Does dim llawer wedi dod o’u gweithredoedd hyd yma. Dyna fy neges i Ysgrifennydd Gwladol Cymru a byddaf yn gofyn iddo drosglwyddo’r neges honno i’r Prif Weinidog a’i gyd-weithwyr Cabinet mewn cyfarfod ffôn sydd wedi ei drefnu bore ‘ma.

“Rydw i eisoes wedi galw am weithredu brys gan Lywodraeth Cymru. Gosodais gwestiwn amserol yn y Cynulliad ddoe, ac fe wnes i achos dros fuddsoddiad sylweddol pellach i sgiliau, isadeiledd ac i ddenu gweithgaredd economaidd newydd i Ynys Môn, yn enwedig gogledd yr ynys.

“Ar hyn o bryd mae llu o brosiectau cyffrous eraill yn mynd rhagddynt yma ym Môn, yn y sector ynni adnewyddol ac ym Mharc Gwyddoniaeth Menai. Ond oherwydd maint prosiect Wylfa, gyda dros 800 o swyddi hir dymor, a chyflogau da, bydd bwlch sylweddol yn economi’r ynys, yn enwedig os bydd y gohiriad yma yn un hir dymor.”