Dylai ‘Consequential’ Crossrail bod yn blaenoriaeth i Lywodraeth Cymru

Mae Gweinidog Cysgodol dros yr Economi a Chyllid Plaid Cymru wedi annog Llywodraeth Cymru i sicrhau benthyciad at brosiect Crossrail Llundain Fawr fel blaenoriaeth, yn sgil Canlyniadau Barnett ac i ychwanegu cludiant Cymru at y buddsoddiad hwnnw, am ein bod angen y seilwaith yn ddirfawr.

Mae hyn yn dilyn cwestiwn Senedd Plaid Cymru, Jonathan Edwards i Lywodraeth y DU, pan ddatgelwyd bod y Gweinyddiaethau Datganoledig wedi cael cynnig Canlyniad Barnett yn dilyn benthyciad yr Adran Drafnidiaeth i Awdurdod Llundain Fawr tuag at Brosiect Crossrail.

Heddiw, ceisiodd Mr ap Iorwerth am sicrwydd bod y cynnig gan Lywodraeth y DU yn cael ei wneud, a gofynnodd beth oedd natur y cynnig, gan fynnu ei fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y buddsoddiad ychwanegol yma yn symud ymlaen.

“Oni ddylai hyn fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru weld ffynhonnell arian posib newydd fel ffordd o fuddsoddi yn seilwaith trafnidiaeth Cymru? Dyma fuddsoddiad sydd ei angen arnom yn ddifrifol.

“Gwyddom fod gwariant isadeiledd trafnidiaeth yng Nghymru ar ei hôl hi, yn sicr o’i gymharu â de-ddwyrain Lloegr a Llundain – pe byddai gwariant fesul pen wedi cael ei wario yn yr ardaloedd hynny, byddai £5.6 biliwn ychwanegol wedi cael ei fuddsoddi yn rhwydwaith trafnidiaeth Cymru dros yr 20 mlynedd diwethaf.

“Mae hon yn achos nodweddiadol o Lywodraeth y DU yn tan-ariannu Cymru, ac yn y tymor byr mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru ei gwneud yn flaenoriaeth i sicrhau’r canlyniad Crossrail yma – mae Llywodraeth Cymru yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf wedi methu â chau y bwlch cyllido rhag cynyddu, ac ni ellir caniatáu i’r bwlch fynd yn fwy.”