Cynlluniau gwrthlif ar gyfer yr A55 ym Mhorthladd Caergybi pe bai Brexit Heb Gytundeb yn cael ei ddatgelu gan Lywodraeth Cymru

Os bydd angen lle ychwanegol ar gyfer HGVs sy’n ceisio croesi Môr Iwerddon ym Mhorthladd Caergybi yn sgil Brexit ‘Dim Bargen’, mae Llywodraeth Cymru wedi datgelu un o’i chynlluniau i fynd i’r afael â’r broblem yn eu hymateb i AC Ynys Môn Rhun ap Iorwerth heddiw.

Mae cynlluniau i sicrhau capasiti ychwanegol ar gyfer hyd at 1,000 o HGVS sydd eisiau croesi yng Nghaergybi wedi cael cyhoeddusrwydd ers tro, ond heddiw datgelodd Llywodraeth Cymru pa gamau y byddai’n eu cymryd pe bai angen capasiti pellach, gan amlinellu sut y byddai gwrthlifoedd yn cael eu defnyddio i leddfu traffig sydd ddim a wnelo’r porthladdoedd, i mewn ac allan o’r dref os bydd angen.

Gofynnodd Aelod Cynulliad Plaid Cymru dros Ynys Môn, Mr ap Iorwerth, am ddiweddariadau gan Lywodraeth Cymru heddiw ynglŷn â’u cynlluniau ar gyfer Porthladd Caergybi gyda Brexit cyflym ar Hydref 31ain yn agosau.

Dywedodd Mr ap Iorwerth:

“Rwy’n falch bod paratoadau wedi’u gwneud i sicrhau rhwyddineb taith i gerbydau ar draws yr A55 ar ôl Hydref 31ain ac y bydd gwaith ffordd yn cael ei glirio i sicrhau nad oes unrhyw rwystrau ychwanegol i’r problemau y bydd traffig yn dod ar eu traws ar y ffordd i Gaergybi.

“Rwyf wedi gofyn i Lywodraeth Cymru heddiw ddatgelu mwy am eu cynlluniau i leihau effaith aflonyddwch ym mhorthladd Caergybi ar draffig lleol yn benodol.

“Rydyn ni’n gwybod bod capasiti yng Nghaergybi i tua 600 o lorïau ac mae yna gynlluniau sydd wedi cael eu hegluro i ni o’r blaen i gael cwpl o leoliadau ychwanegol i gynyddu’r capasiti hwnnw i oddeutu 1,000 HGVS, ond mae potensial problemau yn ardal y porthladd, sydd eisioes efo problemau traffig yn barod. ”

Mewn ymateb dywedodd Ken Skates, Gweinidog Economi a Thrafnidiaeth Llywodraeth Cymru:

“Mae Rhun ap Iorwerth yn llygad ei le, ar y safle a chydag ardal arall rydyn ni wedi’i sicrhau y bydd lle i ychydig llai na 1000 HGV.

“Os bydd angen lle ychwanegol, ein cynnig yw defnyddio ffordd gerbydau tua’r gorllewin yr A55 a chael traffig gwrthlif ar y gyffordd tua’r dwyrain.

“Rydym am leihau aflonyddwch ym mhorthladd Caergybi ond ni allwn warantu, os na fydd cludwyr yn cael dogfennaeth briodol na fyddant yn cael eu troi yn ôl a’u pentyrru ar yr A55, ond rydym am osgoi hyn os yn bosibl.”