Polisi Caerdydd ganolog yn ‘anymarferol ac annheg’ i gymunedau gwledig, meddai Rhun ap Iorwerth.

Mewn llythyr i’r Prif Weinidog, dywedodd yr Aelod Seneddol Rhun ap Iorwerth fod y rheol 5 milltir yn mynd i ynysu’r rhai mewn cymunedau gwledig fwy fyth, gan alw’r canllawiau yn “anymarferol”.

Er bod Plaid Cymru wedi croesawu agwedd bwyllog y Llywodraeth wrth lacio’r cyfyngiadau, dywedodd Gweinidog Iechyd yr Wrthblaid, Rhun ap Iorwerth AS, fod cyflwyno’r cyfynigad teithio o 5 milltir yn ffafrio’r sawl sydd yn byw mewn ardaloedd dinesig yn ormodol.

Yn ôl y canllawiau diweddaraf, gall pobl o ddau dŷ gwahanol sy’n byw yn yr un ardal gyfarfod yn yr awyr agored, a diffiniad ‘lleol’ ydi radiws o 5 milltir. Fodd bynnag, mewn llythyr i’r Prif Weinidog, nododd Mr ap Iorwerth fod y rheol newydd yn “anymarferol” gan ei bod hi nid yn unig yn ffafrio’r rhai sy’n byw mewn ardaloedd dinesig, ond hefyd yn ynysu’r rhai sy’n byw yng nghymunedau cefn gwlad Cymru hyd yn oed yn fwy.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth, Gweinidog Iechyd yr Wrthblaid:

“Dwi eisioes wedi annog y Llywodraeth i geisio caniatáu fod teuluoedd yn cael cyfarfod yn yr awyr agored ar sail lles, cyhyd â bod hyn wedi ei seilio ar dystiolaeth wyddonol a rheolaeth risg.

“Rhywbeth arall sydd yn peri gofid ydi’r ffaith fod 5 milltir yn ardal fach iawn mewn sawl ardal wledig yng Nghymru, gan gynnwys fy etholaeth i. Mae nifer o bobl sy’n cysidro eu bod nhw’n byw yn agos at deulu neu ffrindiau dal yn cael eu hatal rhag eu gweld oherwydd y cyfyngiad teithio.

“Mae cael cynllun sydd yn ffafrio’r rhai sydd yn byw mewn ardaloedd dinesig yn annheg, yn ogystal â bod yn enghraifft arall o bolisi sydd wedi ei ffocysu ar Gaerdydd gan lywodraeth sydd yn rhoi’r argraff ei bod hi’n anwybyddu gofynion yr ardaloedd gwledig.

“Mae hi’n amlwg fod yna sawl diffiniad o’r gair ‘lleol’ mewn ardaloedd gwahanol o Gymru, a dwi’n annog y Prif Weinidog i ganiatáu mwy o hyblygrwydd er mwyn adlewyrchu’r ardaloedd a’r cymunedau amrywiol yng Nghymru.”