Elfyn Llwyd yn cefnogi Rhun ap Iorwerth yn ras Arweinyddol Plaid Cymru

Mae’r cyn Aelod Seneddol ac Arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan wedi addo ei gefnogaeth i Rhun ap Iorwerth i ddod yn arweinydd nesaf y blaid.

Fe wasanaethodd Elfyn Llwyd fel Aelod Seneddol Plaid Cymru rhwng 1992 a 2015, a bu’n arweinydd grŵp seneddol y blaid am 17 mlynedd.

Gan amlinellu ei resymau dros gefnogi Rhun, dywedodd:

“Tra’n derbyn bod y tri ymgeisydd yn haeddiannol, credaf fod Rhun yn ymgeisydd credadwy i fod yn Brif Weinidog, a’r person cywir i sicrhau bod Plaid Cymru yn symud ymlaen ac yn llwyddo yn yr etholiad nesaf.

“O fod wedi cael y pleser o ymgyrchu â Rhun dros y blynyddoedd, ni allaf bwysleisio ei gysylltiad ar garreg y drws – mae’n wych gyda phobl ac mae’n wrandäwr da – ac mae ganddo’r rhinweddau hanfodol i uno ac ysgogi ein haelodaeth.

“Yn ddi-os, mae apêl Rhun yr un mor gryf yng Nghymoedd de Cymru fel y mae yng ngogledd a chanolbarth Cymru. Mae hefyd yn deall yr heriau mawr sy’n wynebu ein cymunedau gwledig dros y blynyddoedd nesaf, tra’n ymwybodol hefyd o’r heriau sy’n wynebu ein hardaloedd trefol, wedi treulio’r rhan fwyaf o’i fywyd gwaith yng Nghaerdydd, yn ogystal ag yn Llundain.

“Credaf fod angen i newidiadau ddigwydd yn y blaid cyn yr etholiad nesaf, ac mae Rhun mewn sefyllfa ardderchog i fynd â’r blaid ymlaen, ac arwain y tîm talentog o ACau sydd gennym yn y Senedd.

“Mae Plaid Cymru angen arweinydd newydd, ac mae ar Gymru angen Rhun.”