Eich iechyd chi fydd ein blaenoriaeth ni ym Mhlaid Cymru

Byddwn yn:

· Darparu gofal cymdeithasol am ddim i’r henoed a rhai gyda dementia

· Hyfforddi a recriwtio 1000 yn fwy o feddygon a 5000 yn fwy o nyrsys

· Sicrhau y caiff cleifion canser ddiagnosis o fewn 28 diwrnod trwy godi tair canolfan ddiagnostig arbenigol

· Amddiffyn gwasanaethau brys a mamolaeth yn Ysbyty Gwynedd

· Trethu diodydd llawn siwgwr i godi arian i’r NHS a thorri cyfraddau diabetes a gordewdra

· Gwella mynediad at wasanaethau iechyd meddwl fel y caiff pawb y driniaeth y maent eu hangen

· Integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol i dorri biwrocratiaeth, rhoi diwedd ar y loteri côd post ar gyfer cyffuriau newydd ac atal pobl rhag mynd i’r ysbyty heb angen

Bydd Plaid Cymru yn cynyddu cyllideb y Gwasanaeth Iechyd dros y 5 mlynedd nesaf.