Diogelu Pobl Hŷn yn Ynys Môn

Mae pobl hŷn yn Ynys Môn mewn llawer mwy o berygl o brofi tân trydanol yn eu cartref nag unrhyw grŵp oedran arall.

Mae dros hanner y tanau mewn cartrefi yng Nghymru yn cael eu hachosi gan drydan, gyda phobl hŷn mewn llawer mwy o berygl o brofi un – yn ôl adroddiad newydd gan yr elusen diogelwch flaenllaw, Electrical Safety First, a Phrifysgol Abertawe

Dyna pam y bu Rhun ap Iorwerth yn bresennol yn lansiad yr adroddiad – Sut gallwn ni gadw Pobl Hŷn yng Nghymru yn Ddiogel? Yn ôl yr adroddiad, mae traean o’r rhai hynny sy’n cael eu hanafu mewn tanau yn y cartref yn bobl hŷn (h.y. 60 a throsodd), ac mae pobl 80+ oed o leiaf bedair gwaith yn fwy tebygol nag unrhyw grŵp oedran arall o gael eu hanafu.

“Mae’r gaeaf wedi hen gyrraedd ac ar yr adeg hon o’r flwyddyn mae’n arbennig o bwysig ein bod yn cadw llygad ar ffrindiau a pherthnasau hŷn, yn enwedig o ran diogelwch trydanol”, eglurodd Rhun ap Iorwerth. “Yn aml, ac yn gwbl naturiol, mae pobl hŷn eisiau byw’n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain cyhyd â phosibl. Ond mae pryderon ynglŷn â chost gwaith atgyweirio, a diffyg ymwybyddiaeth o ddiogelwch trydanol, yn golygu bod perygl mawr i ddiogelwch yn eu cartrefi. Fel y gwelir yn yr adroddiad, oherwydd ein poblogaeth sy’n heneiddio a’r cynnydd mewn salwch sy’n gysylltiedig â henaint, bydd y broblem hon yn gwaethygu. Felly rwy’n canmol Electrical Safety First am amlygu’r mater hanfodol hwn.”

Mae tua 80% o bobl hŷn yng Nghymru yn berchen-feddianwyr, ac fel arfer maent yn byw mewn adeilad hŷn nad yw erioed wedi cael gwiriad diogelwch trydanol. Maent hefyd yn debygol o ddefnyddio hen offer trydan, ac yn aml mae pryderon ynglŷn â biliau gwresogi yn golygu eu bod yn defnyddio dulliau gwresogi rhatach, fel gwresogyddion lle trydanol – sy’n achos cyffredin o danau mewn tai. Yn ôl adroddiad yr elusen, mae nifer y marwolaethau a achosir gan wresogydd trydanol yn sylweddol uwch ymhlith pobl dros 80 oed nag mewn unrhyw grŵp oedran arall.

Meddai Robert Jervis-Gibbons, Rheolwr Materion Cyhoeddus Electrical Safety First:

“Oherwydd y boblogaeth sy’n heneiddio yng Nghymru, rydym wedi nodi bod pobl hŷn mewn llawer mwy o berygl na grwpiau oedran eraill o ddioddef oddi wrth danau trydanol yn y cartref. Mae pobl hŷn yng Nghymru yn cynrychioli dros draean o’r anafiadau a achosir gan danau trydanol, gyda phobl dros 80 oed o leiaf bedair gwaith yn fwy tebygol na grwpiau oedran eraill o gael eu hanafu yn y tanau hyn. Rhaid i ni sicrhau bod pobl hŷn yng Nghymru yn cael parhau i fyw’n ddiogel yn eu cartrefi eu hunain, yn enwedig yn y gaeaf pan fod mwy o drydan yn cael ei ddefnyddio nag ar adegau eraill o’r flwyddyn”.

Yn debyg i weddill Ewrop, mae’r boblogaeth yng Nghymru’n heneiddio a disgwylir y bydd canran y boblogaeth yng Nghymru sy’n 80 oed neu fwy yn dyblu rhwng 2015 a 2035 – pan fydd 1 o bob 4 o’r boblogaeth dros 65. Yn anochel, bydd hyn yn golygu cynnydd sylweddol yn nifer yr afiechydon sy’n gysylltiedig â henaint, fel dementia. Mae adroddiad Electrical Safety First yn amcangyfrif y bydd 50,000 o bobl 65+ oed yn byw gyda dementia yng Nghymru erbyn 2025, ac mae hyn yn creu ei heriau eu hunan o ran diogelwch trydanol.

Yn yr adroddiad, mae Electrical Safety First wedi cyflwyno cyfres o argymhellion i Lywodraeth Cymru. Mae’r rhain yn cynnwys datblygu gwiriad diogelwch trydanol yn y cartref am ddim bob pum mlynedd, a ariennir gan y llywodraeth, ar gyfer pobl dros 80 oed – heb ystyried p’un ai eu bod yn berchen ar eu cartrefi neu’n eu rhentu – a gwiriadau diogelwch trydanol gorfodol bob pum mlynedd, mewn tai cymdeithasol a thai rhent preifat. Maent hefyd yn awgrymu bod cynghorau lleol yn cydweithio gyda darparwyr gofal i ymweld â phobl dros 80 oed er mwyn helpu i atal tanau trydanol, a bod y gwiriadau diogelwch yn y cartref am ddim a gynhelir gan Wasanaethau Tân ac Achub Cymru yn cwmpasu diogelwch trydanol ac nid dim ond larymau mwg.

Yn y cyfamser, mae’r elusen wedi datblygu amrywiaeth o adnoddau a all helpu i wirio diogelwch eiddo. Mae’r rhain yn cynnwys ap ffôn symudol sy’n gwneud gwiriad gweledol cyflym ar y system drydanol mewn cartref, ynghyd â dolen er mwyn dod o hyd i drydanwr cofrestredig yn eich ardal chi. Mae copïau o becynnau gwybodaeth Electrical Safety First, a fydd yn helpu i gadw pobl hŷn yn ddiogel yn drydanol y gaeaf hwn, ar gael yn swyddfa (enw’r AC) trwy gysylltu â (ychwanegu’r manylion).
Ceir copïau o’r adroddiad – Sut gallwn ni gadw pobl hŷn yng Nghymru yn ddiogel? yn: www.electricalsafetyfirst.org.uk/saferhomesWales. Gallwch ddysgu mwy am ddiogelwch trydanol ar gyfer pobl hŷn yn: https://www.electricalsafetyfirst.org.uk/guides-and-advice/for-older-people/