Dioddefwyr Covid Hir Gogledd Cymru: “Mae angen gwasanaethau arbenigol arnom”

Dywed cyd-gadeirydd Grŵp Covid Hir y Senedd “bod yn rhaid cadw pwysau ar y Llywodraeth” i ddatblygu gwasanaethau

Ddoe, roedd cyfarfod rhwng AS Ynys Môn a llefarydd ar Iechyd a Gofal Rhun ap Iorwerth ag aelodau’r grŵp Covid Hir Gogledd Cymru, ac eto roedd hi’n glir pam mae angen gweithredu ar frys i ddarparu’r gofal sydd ei angen arnynt.

Rhannodd yr aelodau â Rhun eu profiadau o fyw gyda covid hir a’u rhwystredigaeth gyda’r diffyg gwasanaethau arbenigol sydd ar gael iddynt. Buont yn siarad am unai wynebu anawsterau gyda chael eu cyfeirio at rai adrannau, a phan oeddent, o gael eu pasio rhwng un adran a’r llall, gydag ychydig iawn o gymorth cydgysylltiedig.

Wrth siarad ar ôl y cyfarfod, dywedodd Rhun ap Iorwerth AS:

“Rwy’n ddiolchgar i aelodau Covid Hir Gogledd Cymru am rannu eu profiadau gyda mi heddiw. Daeth themâu cyffredin cryf i’r amlwg ynglŷn â symptomau a phrofiadau wrth geisio cael cymorth.

“Mae angen i ni ddysgu mwy am y cyflwr hwn, gwrando ar y rhai sy’n dioddef o’i ganlyniad, a sicrhau bod arfer gorau yn cael ei drosglwyddo rhwng byrddau iechyd cyn gynted â phosibl.”

Yr wythnos diwethaf fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru gynlluniau ar gyfer ‘llwybr cleifion’ newydd ar gyfer dioddefwyr covid hir, gan roi meddygon teulu wrth galon yr ymateb i covid hir. Dywed Rhun ap Iorwerth ei fod hefyd yn edrych ymlaen at weithio gyda meddygon teulu i wella diagnosis a thriniaeth, ond dywed bod tystiolaeth gref o’r angen am ganolfannau arbenigol. Ychwanegodd:

“Roedd datganiad y Gweinidog yr wythnos diwethaf yn gam cyntaf pwysig i gydnabod difrifoldeb y cyflwr, ond mae angen i ni nawr weld y cynlluniau hynny yn datblygu wrth i ni ddysgu mwy a mwy am y cyflwr hwn. Yn benodol, rwy’n awyddus i weld timau arbenigol yn gallu adeiladu arbenigedd.

“Roedd llawer o’r rhai sy’n dioddef o covid hir yn gweithio yn y sector iechyd a gofal cyn dal y firws ac yn ysu am allu dychwelyd i wneud yr hyn maen nhw am ei wneud, i ofalu am eraill. Nid yw’r bobl hyn sy’n rhoi eu hiechyd eu hunain yn ail i iechyd eraill yn ystod y pandemig bellach yn derbyn y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt – mae rhai hyd yn oed yn gorfod ceisio cymorth yn breifat – yn destun pryder mawr i mi, a byddaf yn cadw’r pwysau ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu gwasanaethau i helpu’r rhain a phawb sy’n dioddef o covid hir. “