Digwyddiad Dathlu Nyrsio yn y Senedd i ddiolch i’n nyrsys.

Bu Rhun ap Iorwerth AS yn talu teyrnged a chyfarfod â nyrsys rheng flaen fu’n gweithio’n ddiflino drwy gydol y pandemig

Mewn digwyddiad a gynhaliwyd gan y Coleg Nyrsio Brenhinol yn y Senedd yr wythnos diwethaf i ddiolch i’n nyrsys, bu Rhun ap Iorwerth AS yn cyfarfod â nyrsys o ogledd Cymru sydd wedi gweithio’n ddiflino drwy’r pandemig, dangos ymroddiad i’w cleifion ac sy’n parhau i ddarparu gofal o ansawdd uchel ddydd ar ôl dydd.

Yn dilyn y digwyddiad, dywedodd Rhun ap Iorwerth, Aelod o Senedd Ynys Môn, a llefarydd  dros Iechyd a Gofal:

“Roedd yn bleser mynychu’r digwyddiad i ddathlu a siarad â’n nyrsys gwych sydd mor ymroddgar i’w proffesiwn. Maent wedi gweithio’n ddiflino drwy gydol y pandemig ac yn parhau i ddarparu gofal o ansawdd, o ddydd i ddydd.

 “Mae ein nyrsys a’n gweithwyr gofal iechyd wedi gwneud aberth enfawr ac maent yn haeddu cyflog teg a chefnogaeth ystyrlon i wneud nyrsio’n opsiwn gyrfa deniadol i fwy o bobl. Arweiniais ddadl yn y Senedd fis diwethaf yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddangos eu gwerthfawrogiad drwy weithredu’r argymhellion hynny a pharhau i gefnogi galwadau am godiad cyflog mewn termau real.”