DIRPRWY PLAID YN YSGRIFENNU AT Y BBC YNGLYN A CHAEL EI HEITHRIO O’R DRAFODAETH BREXIT

Mae dirprwy arweinydd Plaid Cymru a chyfarwyddwr cyfathrebu, Rhun ap Iorwerth AC, wedi ysgrifennu at Bennaeth Newyddion a Materion Cyhoeddus y BBC i ofyn iddynt estyn gwahoddiad i bleidiau eraill fod yn rhan o’r ddadl deledu Brexit arfaethedig.

Mae ei lythyr yn dilyn y goblygiadau y byddai’r Prif Weinidog, Theresa May ac arweinydd Llafur y DU Jeremy Corbyn yn cael caniatâd i gymryd rhan yn y ddadl ar y teledu gan y BBC.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth AC fod y penderfyniad i wahardd pleidiau eraill yn ‘dileu ei dyletswyddau’ a mae’n eu hannog i ailystyried eu penderfyniad.

Yn ei lythyr at y BBC, nododd Rhun ap Iorwerth fod gan y BBC fel darlledwr gwasanaeth cyhoeddus, gyfrifoldeb i ‘adlewyrchu pob llais’ a galw am ‘graffu a dadlau yn briodol’.

Mae llythyr AC Rhun ap Iorwerth yn dweud,

“Fel darlledwr gwasanaeth cyhoeddus, mae gan y BBC gyfrifoldeb i adlewyrchu’r holl leisiau – mae eich cynnig ar gyfer dadl deledu yn methu cyflawni hynny.

“Mae Plaid Cymru wedi bod yn gyfranogwr gweithredol trwy gydol y datblygiadau Brexit – yn San Steffan ac yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, ac wedi bod yn un o’r ychydig bleidiau gwleidyddol sy’n galw am Bleidlais y Bobl ac i fod yn aelod o’r Farchnad Sengl ac i gadw’r Undeb Dollau.

“Ar lefel wleidyddol, mae Cymru wedi cael ei gadael ar yr ymylon ynglyn a’r broses Brexit. Trwy’r cynnig hwn, mae’r cyfryngau yn parhau gyda’r agwedd yma.

“Mae dadleuon teledu bellach yn decach o ran etholiadau cyffredinol y DU a Chymreig ac ers etholiad cyffredinol 2015 yn y DU, mae Plaid Cymru wedi cymryd rhan mewn nifer o drafodaethau teledu ledled y DU.

“Bydd ein perthynas â’r UE yn rhychwantu cenedlaethau; llawer mwy na’r cylch seneddol pum mlynedd. Mae’n iawn, felly, bod y ddadl wedi’i theledu ar Brexit yn cynnwys pob Plaid etholedig a bod pobl yn cael pob cyfle i glywed amrywiaeth yr opsiynau y maent yn eu hwynebu.

“Fel darlledwr gwasanaeth cyhoeddus, wrth I chi wrthod cynrychiolaeth gyda cymaint o bobol yn dilyn y ddadl, ac yn dewis peidio cynnwys cynrychiolaeth o amrywiaeth o safbwyntiau – byddai hynny yn tanlinellu diffygrwydd ar eich rhan chi.

“Pan fyddwn ni angen mwy o graffu a dadlau democrataidd, gofynwn i chi ailystyried eich penderfyniad, a gwahodd pleidiau eraill i gymryd rhan yn y ddadl ar y teledu ar yr hyn sydd yn un o’r materion mwyaf pwysig sy’n wynebu ein cenhedlaeth fydd yn effeithio ar bob cenhedlaeth i ddod.