Datrysiad lleol yn cael ei gynnig i broblem parcio’r porthladd.

Mae ofnau bod cau’r parc Lorïau Roadking yn ddiweddar wedi dod â thrafferthion parcio lorïau i Gaergybi unwaith eto.
Cyn y datblygiad Roadking, roedd trigolion lleol yn hysbysu am eu problemau yn rheolaidd gyda lorïau yn parcio ac yn achosi niwsans o amgylch y dref. Nawr mae galwadau am help i gwmni lleol sydd wedi cynnig un ateb i’r broblem sy’n deillio o Gyllid a Thollau EM yn cymryd drosodd y safle Roadking.
Mae Kevin Bryant a Paula Goodsir o Goodsir Coaches wedi agor Truckstop ar ystâd ddiwydiannol Penrhos. Eisoes, maent wedi adeiladu sylfaen cwsmeriaid ffyddlon, ond mae angen buddsoddiad pellach ar y safle er mwyn ei wneud yn drefniant parhaol.
Dywedodd Kevin Bryant – “Mae hwn yn gyfle busnes da, yn creu swyddi yn lleol, ond mae’n ymateb i broblem sydd gennym yma, mae angen lleoedd arnom i lorïau allu parcio o amgylch Caergybi.”
Rhun ap Iorwerth yw aelod o’r Senedd dros Ynys Môn, ac mae o wedi bod yn cefnogi Goodsir coaches a’u menter, ac wedi ysgrifennu at Gyngor Sir Ynys Môn a Llywodraeth Cymru i ofyn am eu cefnogaeth.
Meddai – “Rwy’n gwybod o brofiad blaenorol y rhwystredigaeth a achosir gan ddiffyg cyfleusterau parcio lorïau iawn yng Nghaergybi. Rwyf eisoes yn clywed adroddiadau bod lorïau’n parcio o amgylch y dref ac wrth i ni edrych am ateb newydd, yma mae gennym yr hyn a allai yn sicr fod yn rhan o’r ateb ac rwy’n gobeithio y bydd y cwmni lleol hwn yn cael y gefnogaeth y maent yn ei haeddu – bydd nid yn unig eu helpu nhw, ond hefyd yn helpu tref Caergybi.