Datganiad am arweinyddiaeth Plaid Cymru

Datganiad gan/Statement from Rhun ap Iorwerth AC/AM (scroll down for English)

Heddiw cyhoeddodd Rhun ap Iorwerth y datganiad hwn ar ffurf fideo i aelodau Plaid Cymru yn ogystal ag ar ffurf llythyr at Aelodau Cynulliad, Aelodau Seneddol ac Arweinwyr Cynghorau Plaid Cymru:

“Ychydig wythnosau yn ôl, fe wnaeth Leanne wahodd trafodaeth am arweinyddiaeth Plaid Cymru, trafodaeth allai arwain at ailgadarnhau ei arweinyddiarth hi, neu agor pennod newydd yn hanes Plaid Cymru.

“Mae cryn drafod wedi bod ers hynny ynglyn a gwerth cael trafodaeth o’r fath, ac mae cefnogwyr ac aelodau o’r Blaid o bob rhan o Gymru – o gymoedd y de i’r gogledd a’r canolbarth, o’r gorllewin i Gaerdydd – wedi fy annog i i ganiatau i fy enw gael ei gynnig. Mae’r annogaeth wedi dod o bob haen etholedig ond yn bennaf o blith aelodau cyffredin, yn cynnwys rhai yr wyf yn llawn ddisgwyl iddyn nhw gefnogi Leanne!

“A dyna’r pwynt – trafodaeth adeiladol ddylai hon fod, un bositif i egnio’r Blaid a Chymru, ac yn yr ysbryd yna yr wyf yn derbyn yr enwebiadau. Ond mewn ysbryd hefyd o gyffro ac angerdd dros ein gwlad!

“Gadewch i ni drafod gwahanol weledigaethau, gwahanol arddull, a gwahanol syniadau. Mae fy ymrwymiad i i Gymru, ac i ddyfodol tecach a mwy llewyrchus i’r wlad. Mae’n rhaid i Blaid Cymru arwain y ffordd at y Gymru newydd hyderus yna, a dros yr wythnosau nesa fe gawn ni drafod yn agored a democratiadd sut orau i gynnig yr arweiniad mwyaf effeithiol a mwyaf cyffrous i’r Blaid a’r genedl.

“Diolch, ac rwyf yn edrych ymlaen.”