Datblygu sgiliau lleol yn hanfodol ar gyfer economi ynys

AC yn cyfarfod prentis eco-parc newydd

Mae Orthios, y cwmni y tu ôl i’r ffatri Biomas newydd ac Eco-Parc ar hen safle Aliwminiwm Môn yng Nghaergybi wedi dweud wrth AC Ynys Môn Rhun ap Iorwerth eu bod yn addo weithio gydag ysgolion a darparwyr hyfforddiant lleol i facsimeiddio’r cyfleoedd cyflogaeth i weithlu’r ynys, ac i sicrhau y gall gweithwyr y dyfodol dddatblygu’r sgiliau angenrheidiol i weithio yn y ffatri

Wedi iddo astudio peirianneg yng Ngholeg Menai, mae Dafydd Jones newydd gael ei benodi fel prentis ffitiwr. Wrth siarad gydag AC Ynys Môn Rhun ap Iorwerth dywedodd ei fod yn edrych ymlaen at allu adeiladu gyrfa yn y Eco-parc newydd.

Dywedodd Mr ap Iorwerth, sy’n Weinidog Cysgodol Plaid Cymru dros yr Economi:
“Mae dyfodol economi’r ynys yn dibynnu ar gael y sgiliau cywir i gyfateb cyfleoedd swyddi. Rydym wedi dioddef nifer o ergydion economaidd ar Ynys Môn yn ystod y degawd diwethaf, ond mae arwyddion mwy cadarnhaol yn awr.

“Mae’n hanfodol bod busnesau newydd yn manteisio ar dalentau presennol ein gweithlu, ac ar yr un pryd yn buddsoddi mewn datblygu sgiliau newydd. Mae prentisiaethau yn ffurfio rhan hanfodol o hynny, a mae rôl newydd Dafydd yn enghraifft wych. Gadewch i ni obeithio mai ef yw’r cyntaf o lawer o brentisiaid ifanc yn Orthios.

“Mae’r berthynas rhwng cyflogwyr ac ysgolion a cholegau addysg bellach yr ynys yn hanfodol, a’r mwyaf sy’n cael ei wneud i sicrhau bod ein pobl ifanc yn ymwybodol o’r llwybrau cyflogaeth sydd ar gael iddynt yn lleol yn y dyfodol, y gorau.

Dywedodd yr AC ei fod yn bleser cael ei wahodd i ddymuno pob hwyl i Dafydd Jones ar ei lwybr gyrfa newydd.