Cymerwch waith Orb i ddwylo cyhoeddus i arbed swyddi lleol – Plaid Cymru

Rhaid i Lywodraeth Cymru wneud “popeth yn ei gallu” i atal y cau fydd yn “ergyd enbyd”

Wrth ymateb i’r newyddion am gau canolfan Orb Electrical Steels yng Nghasnewydd, dywedodd gweinidog cysgodol Plaid Cymru dros yr economi, Rhun ap Iorwerth,

“Mae hyn yn newyddion enbyd i’r gweithlu a’u teuluoedd, ac y mae’n newyddion drwg iawn i’r diwydiant cynhyrchu dur ac economi ehangach Cymru. Gwneuthurwr dur arbenigol yw Orb, a gallai fod yn un o’r prif gyfranwyr i egin-fusnesau posib yng Nghymru gan gynnwys ynni adnewyddol a chynhyrchu cerbyd trydan.

“Rwyf wedi galw dro ar ôl tro am uwch-gynhadledd o bwys am ddyfodol economaidd Cymru. Mae hyn yn dystiolaeth bellach pam ei bod yn bwysicach nac erioed canoli mor glir ag sydd modd ar y bygythiadau sy’n ein hwynebu, a’r cyfleoedd sy’n rhaid chwilio amdanynt yn y cyfnod hynod ansicr hwn.”

“Mae Plaid Cymru yn gofyn i Lywodraethau Cymru a’r DG i ymchwilio i bob ymyriad posib – o fuddsoddi ar y cyd i hyd yn oed ei gymryd i ddwylo preifat, gan mor bwysig yw cadw’r gallu arbenigol hwn.”

Ychwanegodd Aelod Cynulliad Plaid Cymru dros Ddwyrain De Cymru, Delyth Jewell,

“Mae hyn yn newyddion ofnadwy i’r gweithwyr dur ymroddedig, ac yr wyf yn teimlo yn fy nghalon dros bawb y mae cyhoeddiad heddiw yn effeithio arnynt. Mae angen i Lywodraeth Cymru wneud popeth yn ei gallu i geisio achub y swyddi hyn a dylent ystyried cymryd y gwaith i ddwylo cyhoeddus, gan y gallai’r cynhyrchion arbenigol ddaw o’r gwaith chwarae rhan bwysig yn natblygiad y sector adnewyddol sydd mor strategol bwysig yng Nghymru.

“Dylent hefyd fynnu cyfarfod yn syth ar y lefel uchaf gyda phenaethiaid Tata i bwyso arnynt eu cyfrifoldeb i gynnal ymrwymiadau a wnaethant cyn hyn i’w gweithlu, gan mai dim ond llynedd y cytunodd y gweithwyr i dderbyn darpariaethau pensiwn llai hael yn gyfnewid am warant y gallent gadw eu swyddi. Er fy mod yn deall y cynigir cyfle i’r gweithwyr adleoli, dyw hyn ddim yn bosib i lawer sydd â gwreiddiau dwfn yn yr ardal, ac sydd heb y modd i ddadwreiddio eu bywydau ar fyr rybudd.

“Mae angen codi cwestiynau unwaith eto am y modd mae Llywodraeth Cymru fel petaent wedi eu synnu gan gyhoeddiad am golli swyddi yn y sector gweithgynhyrchu yng Nghymru, byddaf yn gofyn am esboniad gan Weinidog yr Economi am beth mae’n wneud i geisio amddiffyn y swyddi hyn dros yr ychydig fisoedd nesaf.”