Cwrw Bragdy ym Môn bron yn barod

Bu Rhun ap Iorwerth yn ymweld â Bragdy ‘Coppertown’ yn Amlwch yr wythnos hon, lle mae’r casgenni cyntaf bron yn barod i’w gwerthu.

Sion Roberts (Head Brewer) & Rhun ap Iorwerth, Coppertown Brewery, Amlwch

Sion Roberts (Head Brewer) & Rhun ap Iorwerth, Coppertown Brewery, Amlwch

Cyfarfod Rhun gyda’r Prif Fragwr Sion Roberts i gael gweld sut oedd y cwrw’n cael ei wneud. Bydd y cwrw ar gael i dafarndai ei brynu o Hydref 5ed ymlaen, ac anogir y rhai sydd â diddordeb i ffonio Bragdy Coppertown ar 01407 832564.

Mae nhw hefyd yn berchen tafarn y Market, lle bydd y cwrw newydd ar werth ynghyd â brandiau eraill.

Dywed AC Ynys Môn Rhun ap Iorwerth:

“Mae hi’n braf gweld bragdy newydd yn barod i dorri syched pobl Amlwch a thu hwnt, ac rydw i’n edrych ymlaen at ei flasu fo fy hun ar ôl gweld sut mae’n cael ei wneud. Pob lwc iddyn nhw gyda’r fenter newydd.”

Dywed Rheolwr Gyfarwyddwr Coppertown Shaun Jackson:

“Mae lefel y diddordeb gan dafarndai’r ynys wedi bod yn well nag oeddem wedi ei ddisgwyl hyd yn oed, a gofynnwn os yw ein tîm telegyfathrebu yn brysur, i bobl unai adael neges neu ein e-bostio ni ar sales@coppertownbrewery.co.uk“.