Colofn Rhun i’r Holyhead and Anglesey Mail 11.04.18

Bydd nifer ohonoch wedi bod yn dilyn y ffrae diweddar dros gynlluniau’r RSPB i godi tâl o £5 am barcio yn Ynys Lawd. Rydw i’n teimlo’n anghyfforddus iawn am y newid arfaethedig yma.

Fe ysgrifennais at Bennaeth RSPB yng Nghymru y mis diwethaf, a cefais gyfarfod gyda hi yn Ynys Lawd yr wythnos diwethaf. Gofynnais iddynt ail-ystyried, gan bwysleisio pwysigrwydd Ynys Lawd i bobl Caergybi a Môn a gofyn iddynt ddatblygu cynllun fwy sensitif – pas blynyddol i bobl leol, er enghraifft, neu wahaniaethu rhwng parcio amser hir a byr. Fe ofynais hefyd iddynt rannu unrhyw elw gyda’r menter gymdeithasol sy’n rhedeg y goleudy – wedi’r cyfan, dyma pam mae lot o bobl yn ymweld ag Ynys Lawd.

Fe wnes i wrando ar RSPB hefyd. Dywedwyd wrthyf nad oedd dewis arall go iawn. Mae eu cyllid grant wedi mynd i lawr dros y blynyddoedd, ac mae angen iddyn nhw wneud Ynys Lawd yn gynaliadwy. Byddai’r tâl yn £2.50 ar amseroedd llai prysur o’r flwyddyn, yn hytrach na £5, a byddai am ddim cyn 9 y bore ac ar ôl 5 y prynhawn – delfrydol ar gyfer ymwelwyr lleol rheolaidd neu bobl sy’n mynd a’u cŵn am dro ayb (gwybodaeth bositif a ddylai wedi cael ei wneud yn gyhoeddus gan RSPB). Ond roeddwn yn dal eisiau iddynt gyfaddawdu.

Mae ymgyrch gret wedi tyfu ers i’r newidiadau arfaethedig gael eu gwneud yn gyhoeddus, ac rydw i’n ddiolchgar i bawb sydd wedi lobîo RSPB. Yn ddiweddarach yr wythnos diwethaf, dywedodd RSPB y byddent yn cyflwyno pas blynyddol o £20 i drigolion Ynys Cybi. Mae hyn yn gam yn y cyfeiriad iawn, ond mae’n dal i fod yn lot o arian, a byddai’n dda gweld y diffiniad o ‘lleol’ yn cael ei ehangu hefyd. Mae hefyd y mater o rannu elw. Ond rydym yn symud beth bynnag.

Felly gadewch i ni barhau i ddefnyddio grym perswâd…a hoffwn i RSPB ddefnyddio grym ymchwil i weithio allan sut y byddai’r tâl yn effeithio ar ddefnyddwyr lleol, gan gynnwys ymwelwyr i’r caffi, er enghraifft.

Efallai yn gyfreithiol fod Ynys Lawd yn eiddo i RSPB, ond ym Môn, rydym yn gwybod ei fod yn eiddo i ni i gyd go iawn.