Colofn Rhun ar gyfer yr Holyhead and Anglesey Mail 18.07.18

Roeddwn yn falch o gael fy newis yn y balot yn ddiweddar i gyflwyno dadl fer i’r Cynulliad ar bwnc o’m dewis.

Ar ôl cael cywed am (a chel gweld drosof fy hun yn ystod ymweliad diweddar) y gwaith rhagorol sy’n cael ei wneud gan adran gwyddorau eigion Prifysgol Bangor ym Mhorthaethwy a bod yn ymwybodol o botensial Ynys Môn o ran ynni morol yn ogystal ag ymchwil, penderfynais ddefnyddio fy amser yn siambr y Cynulliad i drafod dyfodol y llong ymchwil Prince Madog.

Rwy’n siŵr y bydd y Prince Madog yn olygfa gyfarwydd i lawer ohonoch sydd wedi ei weld ynghlwm wrth y pier ym Mhorthaethwy. Dyma’r llong fwyaf i’w gweld yn rheolaidd ar y Fenai ac mae pawb sy’n falch ohoni yn gwybod ei bod yn symbol o ragoriaeth yr Ysgol Gwyddorau Eigion ym Mangor.

Roedd fy nadl nid yn unig yn dathlu y rôl honno, ond hefyd yn pwyso ar Lywodraeth Cymru bwysigrwydd y Prince Madog rwan a’i botensial cenedlaethol am flynyddoedd i ddod, gan wneud yr achos iddo gael ei wneud yn Long Ymchwil Morol Cenedlaethol i Gymru. Mae gan Iwerddon ddau yn barod!

Mae ardal morol Cymru yn cynnwys adnoddau naturiol gwerthfawr ac amrywiol a all ddarparu cyfleoedd economaidd a chymdeithasol sylweddol, ac sy’n cyfrannu at les y genedl a chenedlaethau’r dyfodol. Ond, mewn gwirionedd, gwyddom bron ddim am yr adnoddau hynny. Mae’n syfrdanol gyn lleied o wely’r môr sydd wedi’i fapio, o ystyried y mapio manwl ar y tir.

Mae mapio o’r fath yn flaenoriaeth ar lefel yr UE ac wedi bod ers peth amser, ond ni fu unrhyw gynllun cydlynol ar gyfer y DU – dim cynllun i Gymru. Mae’r broses o gasglu data wedi bod yn ad hoc. Nid yw wedi’i gydlynu’n iawn, a rhaid i hynny newid. Wrth gwrs, mae gennym yr adnodd y mae angen inni wneud y gwaith hwnnw: y Prince Madog. Gadewch i ni fod yn arloesol a gwneud iddo ddigwydd.

Mae disgyblion Ysgol David Hughes yn sicr yn gwybod beth yw arloesi! Cefais amser gwych yn siarad am fusnes ac entrepreneuriaeth yn Ffair Arloesi Ysgol David Hughes yr wythnos diwethaf. Roedd y ffair yn llawn syniadau gwych a grŵp gwych o fyfyrwyr. Dechreuwyd Dillad Arfordir yn y ffair y llynedd, ac maent wedi mynd o nerth i nerth, a newydd lansio cynnyrch newydd. Mae angen inni gefnogi a hyrwyddo’r entrepreneuriaid ifanc hyn. E wch amdani gyda’ch cynlluniau! – Dymunaf y gorau i chi gyd.