Colofn Rhun ap Iorwerth i’r Holyhead and Anglesey Mail 19 07 17

Dwi wastad yn awyddus i wneud pobl yn ymwybodol mai’r Cynulliad Cenedlaethol ydi eu deddfwrfa nhw, mai’r Senedd ydi eu hadeilad nhw, ac mai’r sedd dwi’n eistedd ynddi yn Siambr y Senedd ydi sedd Ynys Môn.

O ganlyniad i hyn, roeddwn i’n falch iawn o gael croesawu pedair ysgol gynradd o’r ynys i’r Senedd yr wythnos ddiwethaf, a dangos sedd Ynys Môn, eu sedd nhw, iddynt.

Gobeithiaf, ar ôl clywed y cwestiynau gwych gan ddisgyblion Ysgol y Borth, Ysgol Corn Hir, Ysgol Parc y Bont ac Ysgol Llanfechell y bydd nifer ohonynt yn anelu i eistedd yn sedd Ynys Môn yn y Senedd yn y dyfodol. Fe ofynnwyd nifer o gwestiynau i mi – am beth sy’n fy ysbrydoli, ein trafodaethau diweddar yn y Senedd yn ogystal â dyfodol Cymru, a mwy.

Fe wnes i drafod pwysigrwydd dysgu ieithoedd ychwanegol gyda disgyblion Parc y Bont a disgyblion Corn Hir, a braf oedd cael clywed fod plant Corn Hir yn cael un wers Ffrangeg yr wythnos yn barod. Fel disgyblion dwyieithog, roedden nhw’n frwdfrydig iawn o weld cyfleoedd i herio eu ffiniau ieithyddol, ac yn dilyn y drafodaeth gyda’r disgyblion, fe wnes i godi’r mater gyda’r Prif Weinidog yn y Siambr y prynhawn hwnnw.

Mae tystiolaeth yn dangos fod yna leihad mawr yn y nifer o ddisgyblion sy’n dysgu iaith dramor yn yr ysgol uwchradd yng Nghymru. Gofynnais i’r Prif Weinidog gytuno â’r galw diweddaraf gan y grŵp traws-bleidiol dwi’n ei gadeirio sef Cymru Rhyngwladol er mwyn gwireddu’r dyhead o gael Cymru dwyieithog ‘+1’.

Mae dysgu ieithoedd dramor, a thrwy hynny meithrin ymwybyddiaeth o ddiwylliannau gwahanol, yn holl-bwysig er mwyn trawsnewid disgyblion Cymru i fod yn ddinasyddion byd-eang.
Roeddwn i hefyd yn hynod falch o weld myfyrwyr yn manteisio ar y cyfle i greu busnes fel rhan o’u Her Menter ar gyfer y Fagloriaeth Gymreig.

Fe ges i fy synnu ar yr ochr orau yn y Ffair Arloesedd yn Ysgol David Hughes yn ddiweddar o weld cymaint o syniadau busnes cyffrous a gwreiddiol – ac mae rhai wedi datblygu i fod yn fusnesau go iawn yn barod megis ‘Arfordir Clothing’. Dymunaf yn dda i’r holl entrepreneuriaid ifanc gyda’u anturiaethau amrywiol.