‘Cefnogi Busnesau Bach ‘yn bwysicach nag erioed’

Rhun ap Iorwerth AS yn ymweld â busnesau i nodi Sadwrn Busnesau Bach
 
Neges syml sydd i Sadwrn Busnesau Bach, sef i annog pobl i ‘siopa’n lleol’ a chefnogi busnesau yn eu cymunedau. I gefnogi’r alwad honno, a chodi ymwybyddiaeth o’r diwrnod aeth Rhun i ymweld â rhai busnesau ym Môn sy’n gobeithio am Nadolig llwyddiannus ar ôl blwyddyn anodd.
 
Ym Morthaethwy, roedd Awen Menai yn sicr yn gweld cynnydd yn y nifer y bobl sydd am siopa mewn busnesau bach lleol. Dywed y perchennog “Mae pobl yn gwneud ymdrech eleni i gefnogi busnesau lleol”.
Ar ôl blwyddyn anodd – yn cynnwys gorfod addasu stoc gan fod nifer o’r ffatrïoedd dillad ac esgidiau wedi gorfod cau ddechrau’r flwyddyn – roedd perchennog siop ddillad Butterfly Boutique hefyd am bwysleisio pa mor bwysig ydi denu cwsmeriaid lleol drwy’r drws cyn y Nadolig – “For our High Streets to survive, we need people’s support”.
Yn Gaerwen, roedd criw Bragdy Mona wedi gorfod addasu eu cynllun busnes wrth i dafarndai a busnesau gau, ac roeddan nhw’n obeithiol o allu denu digon o brynwyr i’w siop newydd yn y bragdy.
 
Dywedodd Rhun ap Iorwerth AS: “Ar ôl blwyddyn fel hon, mae cefnogi’ch busnesau lleol yn bwicach nac erioed, felly cefnogwch eich busnesau lleol yma ym Môn, a chofiwch o bob punt ’da chi’n wario mewn busnes lleol mae 63c ohono yn aros yn yr economi leol, felly gwnewch hwn yn Nadolig Llawen i chi’ch hunain ac i fusnesau bach Môn.”