CAMGYMERIAD ADOLYGIAD TAL Y GWASANAETH IECHYD YN “ERGYD” I WEITHWYR GIG AR GYFLOG ISEL

“Rhaid i Weinidogion Llafur anrhydeddu’r codiad cyflog gwreiddiol a gyhoeddwyd yn gyhoeddus” – Rhun ap Iorwerth AS

Mae Rhun ap Iorwerth AS wedi cyhuddo llywodraeth Lafur o gynnal adolygiad tal methiedig ar ôl iddyn nhw gyhoeddi ar gam y bydd y rhai ar gyflogau isaf yn y gwasanaeth iechyd Cymru yn cael codiad cyflog.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, yr wythnos diwethaf y byddai’r tâl cychwynnol i weithwyr iechyd Cymru yn codi i £10.18 yr awr ond heddiw fe gywirodd hynny i £9.50 yr awr – sy’n cyfateb i’r cyflog byw go iawn – a chynigiodd “ymddiheuriadau diffuant am unrhyw ddryswch”.

Dywedodd y Llefarydd Iechyd, Rhun ap Iorwerth AS, y byddai’r newyddion yn “ergyd go iawn” i’r gweithwyr ar y cyflog isaf yn y GIG.

Galwodd Mr ap Iorwerth ar Weinidogion Llafur i “fynd i’r afael â’r dryswch ar frys” ac i anrhydeddu’r codiad cyflog gwreiddiol, a gyhoeddwyd yn gyhoeddus fel cam cyntaf i wir werthfawrogi gweithlu’r GIG.

Dywedodd y Llefarydd Iechyd, Rhun ap Iorwerth AS,

“Dyma ergyd wirioneddol i’r gweithwyr ar y cyflog isaf yn y GIG. Yn ystod y pandemig mae’r gweithwyr hyn wedi mynd y tu hwnt i alwad dyletswydd trwy ddarparu gofal rhagorol ac mewn rhai achosion gwneud hynny heb offer amddiffyn personol digonol.

“Rhaid i Weinidogion fynd i’r afael ar frys â’r dryswch ynghylch yr adolygiad cyflog methiedig hwn ac anrhydeddu’r codiad cyflog gwreiddiol, a gyhoeddwyd yn gyhoeddus fel cam cyntaf i wir werthfawrogi gweithlu’r GIG.”