AC yn hynod siomedig gyda phenderfyniad i gau llysoedd Môn

Mae Aelod Cynulliad Ynys Môn Rhun ap Iorwerth wedi lleisio ei siom gyda phenderfyniad Llywodraeth y DG i gau Llys Ynadon Caergybi a Llys Sifil a Theulu Llangefni.

Yn siarad ar ôl y cyhoeddiad heddiw, dywedodd Rhun:

“Rydw i wedi fy siomi’n arw gyda’r penderfyniad i gau’r ddau lys a gadael Ynys Môn heb unrhyw ddarpariaeth llysoedd o gwbl. Mae’r achos wedi cael ei wneud yn gryf iawn i gadw llysoedd Caergybi a Llangefni, ac mae cynghorwyr ac ASau Plaid Cymru hefyd wedi dadlau’n gryf yn erbyn cau.

“Yn ystod yr ymgynghoriad, rhybuddiais y byddai hyn yn siŵr o gael effaith andwyol ar gyfiawnder lleol ac yn creu anawsterau difrifol i bobl sy’n defnyddio’r llysoedd – boed hynny’n ddiffynyddion, cyfreithwyr, swyddogion heddlu neu Ynadon Heddwch.

“Byddwn yn chwilio am bob ffordd posib i geisio gwrthdroi’r penderfyniad yma.”