“Beth sy’n mynd i gael ei wneud yn wahanol?” – Rhun ap Iorwerth yn ymateb i Gynhadledd Wasg Llywodraeth Cymru.

Wrth ymateb i gynhadledd i’r wasg Llywodraeth Cymru heddiw (dydd Mercher 28 Hydref), dywedodd Rhun ap Iorwerth MS, Gweinidog Iechyd Cysgodol Plaid Cymru:

“Mae’r newyddion heddiw bod 37 o bobl bellach wedi marw o coronafirws yn ein hatgoffa’n chwyrn o’r hyn rydyn ni’n ei wynebu os ydyn ni’n methu â rheoli’r firws. Roeddem yn iawn i alw am y cyfnod clo dros-dro hwn, i’w arafu a chaniatáu i strategaeth newydd gael ei rhoi ar waith.

“Nawr mae gwir angen i ni wybod beth yw’r cynllun ar ôl Tachwedd 9fed. Rydym wedi cael rhywfaint o fanylion heddiw, a chroesawaf hynny. Rwyf wedi galw, er enghraifft, am sicrwydd y gallai campfeydd ailagor fel y gallai pobl gadw’n heini eu corff a’u meddwl.

“Ond mae angen mwy o fanylion arnom ar yr hyn y dylai busnesau gynllunio ar ei gyfer, ac yn hollbwysig yr hyn y bydd y Llywodraeth yn ei wneud yn wahanol o ran rheoli a churo’r firws i lawr, yn enwedig trwy gryfhau’r system brofi.”