Bancio ym Miwmares – eich syniadau chi

Rydan ni i gyd yn siomedig iawn, iawn efo penderfyniad NatWest i gau eu cangen ym Miwmares, ac i gyfyngu oriau yng Nghaergybi. Rwyf wedi cyfarfod penaethiaid y Banc yng Nghymru i fynegi protest pobl Môn, ond yn amlwg does dim newid meddwl yn mynd i fod. Rwyf felly wedi bod yn gwthio am sicrhau bod gwasanaethau yn cael eu cynnal yn y ffordd orau posib, drwy sicrhau gwasanaeth llawn i gwsmeriaid preifat yn y Post, a gwasanaeth cynhwysfawr i fusnes, er enghraifft. Buom hefyd yn trafod Banc symudol, ac rwyf yn eiddgar i gael eich barn, i’w basio i NatWest ar pa ddyddiau y dylai y Banc symudol ymweld a’r dref, a lle y dylai leoli ei hun. Buaswn yn ddiolchgar iawn i gael eich sylwadau, er mwyn i fi gael eu pasio mlaen i’r Banc – drwy e-bostio rhun.apiorwerth@cynulliad.cymru