Aelod Cynulliad a chyn-Weinidog Llywodraeth yn rhoi cefnogaeth i Rhun

Mae Aelod Cynulliad Ceredigion Elin Jones wedi datgan y bydd yn rhoi ei phleidlais gyntaf i Rhun ap Iorwerth yn ras arweinyddol Plaid Cymru. Mewn datganiad heddiw, dywedodd Elin Jones:

“Mi fydda i yn pleidleisio dros newid yn yr arweinyddiaeth. Mi wnaf hynny, nid fel datganiad o anfodlonrwydd gyda’r arweinyddiaeth bresennol, ond yn hytrach er mwyn cydnabod fod angen i ni gyflawni mwy. Mae rhain yn amserau anghyffredin sydd angen pleidiau creadigol ac hyderus. Ni fedrwn fforddio swildod yn ein ymateb i’r heriau sy’n wynebu ein gwlad yn sgîl refferendwm Brexit.

“Fel plaid, dylem osgoi hunan-fodlonrwydd a siarad yn ormodol â ni ein hunain, yn hytrach nag ymestyn mas i weddill bobl Cymru. Nid plaid protest ydym bellach, ond plaid a ddylai awchu i lywodraethu. Gallwn ond cyflawni y newidiadau sydd eu hangen ar Gymru tra’n llywodraethu. Ar hyn o bryd, mae angen newid gêr arnom er mwyn sicrhau’r momentwm angenrheidiol i ennill etholiad a ffurfio llywodraeth. Dyna pam y bydda i yn pleidleisio dros arweinydd newydd.

“Mae Leanne wedi gwneud gwaith clodwiw dros y blynyddoedd diwethaf a hi oedd yr arweinydd iawn i’r cyfnod yna. Ond bellach, mae’r amserau anghyffredin hyn angen Arweinydd i herio Brexit ac i adeiladu plaid sy’n gymwys a pharod i ennill etholiadau ym mhob cwr o Gymru ac i lywodraethu ein gwlad.

“Dyna pam y byddaf yn rhoi fy mhleidlais gyntaf i Rhun.”