AC Ynys Môn yn ‘chough-ed’ i gefnogi gwaith RSPB yn Ynys Lawd

Cyfarfu Aelod Cynulliad Ynys Môn Rhun ap Iorwerth gyda chynrychiolwyr RSPB yn Ynys Lawd yr wythnos diwethaf i ddysgu mwy am y gwaith mae nhw’n ei wneud yna, yn enwedig i warchod y frân goesgoch.
 
Cafodd Rhun ei apwyntio fel pencapwr rhywogaeth y fran goesgoch fel rhan o gynllun Cyswllt Amgylchedd Cymru i bario ACau gyda rhywogaethau mwyaf prin Cymru i hyrwyddo eu hachos.

Roedd felly’n fwy na hapus i dderbyn gwahoddiad gan y RSPB i ddysgu mwy am yr aderyn yn ogystal â’r gwaith sy’n cael ei wneud i’w warchod yn Ynys Lawd.
 
Yn siarad ar ôl ei ymweliad, dywedodd Rhun ap Iorwerth AC:
 
“Roeddwn i’n chough-ed if od wedi cael fy newis yn bencampwr rhywogaeth i’r aderyn prin a rhyfeddol yma. Mae gan yr aderyn yma anghenion cynefin llawer mwy arbenigol na rhai o’i pherthnasau yn nheulu’r frân, a dyna pam fod arfordir creigiog gorllewinol Ynys Cybi yn ddelfrydol iddi hi. A drwy reolaeth o’r rhostir a chaeau pori arfordirol, mae niferoedd y brîd Celtaidd eiconig yma wedi cael eu cynnal.

“Er fod ei phlu di hi’n gwneud iddi edrych fel brân, mae gan ddi fil a choesau coch yn wahanol i unrhyw aeloda arall o deulu’r brân. Os hoffech weld cip ohonynt yn Ynys Lawd, mae nhw’n gallu cael eu gweld mewn heidiau yn yr hydref a’r gaeaf, ond wrth gwrs, mae’r warchodfa RSPB yn Ynys Lawd yn werth ymweld â hi drwy gydol y flwyddyn.”

Ychwanegodd Rheolwr Prosiect RSPB Ynys Lawd Laura Kudelska:
 
“Rydym ni wrth ein bodd fod ein Haelod Cynulliad lleol, Rhun ap Iorwerth AC, yn bencampwr rhywogaeth ar gyfer y frân goesgoch, un o’r rhywogaethau allweddol yr ydym yn gweithio’n galed i’w hamddiffyn yn RSPB Ynys Lawd. Mae Cymru yn arbennig o bwysig i’r frân goesgoch, gan ei fod yn cynnwys mwy na hanner poblogaeth y DG o’r aderyn prin a hynod hwn.
 
“Roedd yn bleser cael dangos i Rhun y gwaith yr ydy yn ei wneud ar y safle i warchod dyfodol y rhywogaeth eiconig yma. Yn RSPB Cymru rydym wedi ymrwymo i sicrhau fod ein poblogaeth Gymreig bwysig o’r frân goesgoch yn cael ei gydnabod, ei werthfawrogi a’i ddathlu gan bobl Cymru. Mae’r frân goesgoch yn rhywogaeth fflaglong arbennig, yn dangos y rôl mae ffermio yn ei chwarae mewn creu a chynnal cynefin ar gyfer rhywogaethau sydd â blaenoriaeth. Mae cael poblogaeth gref ac iach o frân goesgoch ar Ynys Môn yn hanfodol. Maent yn rhan annatod o hanes yr ynys hon ac rydym ni eisiau sicrhau ei fod yn aros yma er mwyn i genedlaethau’r dyfodol gael eu mwynhau.”